Llyn y Fydlyn
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.394798°N 4.568165°W ![]() |
![]() | |

Llyn dŵr croyw arfordirol yng ngogledd Ynys Môn yw Llyn y Fydlyn (weithiau Llyn Fydlyn) a cheir Ynys Fydlyn o fewn tafliad carreg. Fe'i lleolir tua milltir i'r gorllewin o bentref Llanfair-yng-Nghornwy yng nghymuned Cylch y Garn ar lan Bae Caergybi. Enwir y lagŵn hwn ar ôl "Y Fydlyn", sef yr enw lleol am y banc neu farian o gerrig sy'n gorwedd rhwng y llyn a'r môr. Ceir Ynys y Fydlyn, sef dwy ynys fach ar y traeth, gerllaw.
Amgylchynir y llyn bychan hwn gan goedwigoedd conwydd, ac eithrio ar gerrig y Fydlyn ei hun. Ffurfiwyd y lagŵn pan rwystrodd cerrig y farian ddŵr ffrwd leol rhag cyrraedd y môr. Mae'r llyn yn fas ac yn gallu troi'n sych bron yn yr haf.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Y Fydlyn Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback., gwefan Blueseasurf.
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Y Fydlyn Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback., ar wefan Blueseasurf.co.uk