Lewis Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lewis Roberts
Captain Lewis Roberts.jpg
Ganwyd 1596 Edit this on Wikidata
Biwmares Edit this on Wikidata
Bu farw 1640 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Ysgrifennwr, masnachwr, Economegydd Edit this on Wikidata

Masnachwr Cymreig ac awdur llyfrau ar economeg oedd Lewis Roberts (1596 - 1640).[1] Ysgrifenodd sawl llyfr ar fasnach ac economeg ac roedd yn gyfaill i Izaak Walton ac eraill.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Lewis Roberts ym Miwmares, Môn, yn 1596, yn fab i rieni cyfoethog. Teithiodd yn eang. Cafodd swydd gyda'r East India Company gan ddod yn rheolwr arno yn nes ymlaen.[1]

Ysgrifenodd arweinlyfr i fasnachu tramor sef The Merchantes Mappe of Commerce (1638), yn seiliedig ar ei brofiad o wahanol wledydd. Yn 1640, blwyddyn ei farwolaeth, cyhoeddodd The Treasure of Trafficke. Yn y llyfr hwnnw mae'r awdur yn troi at economeg wleidyddol ac yn annog gwladoli yswiriant masnachol a chael ymyrraeth y wladwriaeth mewn masnach er mwyn ei rheoli.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Merchantes Mappe of Commerce (Llundain, 1638)
  • The Treasure of Trafficke (Llundain, 1640)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.