Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares
Gwedd
| Math | eglwys |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Biwmares |
| Sir | Cymuned Biwmares |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 11.3 metr |
| Cyfesurynnau | 53.26°N 4.09°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Cysegrwyd i | Sant Nicolas |
| Manylion | |
Eglwys ac adeilad rhestredig Gradd I o'r 14g ym Miwmares, Ynys Môn, yw Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares.[1]
Sefydlwyd yr eglwys tua 1330, i ddechrau fel capel anwes i Llandegfan, i wasanaethu'r fwrdeistref newydd.
Mae corff yr eglwys yn yr arddull Addurnedig, ac mae'n dyddio o'r 14g. Ailadeiladwyd y gangell tua 1500 yn yr arddull Berpendicwlar. Mae gan y twr gorllewinol furganllawiau; ail-fodelwyd y rhan uchaf yn gynnar yn y 19g. Mae'n debyg bod festri'r gogledd a chyntedd y de yn dyddio o'r 19g hefyd. Mae'r tu allan yn yr arddull Berpendicwlar yn bennaf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "SS Mary and Nicholas's Church, Beaumaris", Gwefan Coflein; adalwyd 5 Mawrth 2020
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Church Heritage Cymru
- (Saesneg) Imaging the Bible in Wales Database Archifwyd 2020-08-15 yn y Peiriant Wayback
