Logo

Logo'r Sefydliad Wicifryngau.
Delwedd neu nod sy'n cynrychioli corff, cwmni, mudiad, neu rywbeth arall yw logo. Fel rheol caiff ei ddylunio'n neilltuol gyda'r amcan o gynrychioli'n weledol pwrpas neu weithgarwch y gwrthrych. Mae logos dan hawlfraint bron yn ddieithriad.
