Morisgiaid
| Enghraifft o: | grŵp ethnig |
|---|---|
| Math | New Christian |
| Enw brodorol | mouriscos |
| Gwladwriaeth | Sbaen |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01cv_0 |
| Quora | Moriscos |

Mwslemiaid a orfodwyd i gyffesu Cristnogaeth ar ôl i frenhinoedd Castille oresgyn teyrnasoedd Mwslemaidd Al-Andalus yn ne Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol oedd y Morisgiaid (Sbaeneg, enw unigol, Morisco).
Roedd nifer o Fwslemiaid yn ardaloedd fel Andalucía yn dal i fyw yn Sbaen ar ôl y goresgyniad. Yn ystod y 15g fe'u gorfodwyd i dderbyn Cristnogaeth neu ffoi i alltudiaeth. Dewisai nifer aros yn Sbaen a chyffesu Cristnogaeth yn gyhoeddus tra'n proffesu Islam yn eu tai. Ar ddechrau'r 16g penderfynodd llywodraeth Sbaen eu troi nhw allan o'r wlad ac rhwng 1609 a 1614 gorfodwyd tua 500,000 ohonyn nhw i ffoi. Ymsefydlodd y mwyafrif yn y Maghreb (gogledd Affrica). Gwnaethent gyfraniad arbennig i ddiwylliant y gwledydd hynny, yn arbennig yn Tiwnisia, gan ddod â cherddoriaeth a phensaernïaeth arbennig gyda nhw, ffrwyth y croesffrwythloni rhwng y traddodiadau Islamaidd a Christnogol yn ne Sbaen.