Mosg Al-Haram
Jump to navigation
Jump to search
Mosg Al-Haram (Arabeg: Al-Masjid Al-Haram) yng nghanol dinas sanctaidd Mecca, Sawdi Arabia, yw'r mosg pwysicaf yng nghrefydd Islam.
Mae'r mosg anferth yn cynnwys y Ka'aba, y garreg ddu sanctaidd. Yma mae pererindod fawr flynyddol yr Hajj, sy'n denu pererinion o bob cwr o'r byd Mwslemaidd, yn dechrau ac yn gorffen.
Cred Mwslemiaid fod y Proffwyd Muhammad wedi cael ei gludo o'r Mosg Sanctaidd (Al-Masjid al-Haram) ym Mecca i al-Aqsa yn Jeriwsalem yn Nhaith y Nos, fel y'i disgrifir yn y Coran. Yn ôl traddodiadau Islamig, roedd Muhammad a'i ddilynwyr yn gweddio i gyfeiriad al-Aqsa hyd y 17eg fis ar ôl y Hijra, pan newidwyd i weddio i gyfeiriad y Ka'aba.