Dugiaeth Vasconia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Vasconia)
Dugiaeth Vasconia yn yr 8g.

Dugiaeth a sefydlwyd yn nechrau'r 7g yn yr ardal sy'n cyfateb i Wlad y Basg yng ngogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc oedd Dugiaeth Vasconia, weithiau Wasconia. Datblygodd yn y tiriogaethau lle trigai'r Vascones a'r Aquitani yn y cyfnod cyn y Rhufeiniaid.

Erbyn diwedd y 6g, roedd y Ffranciaid yn rheoli Ffrainc a'r Fisigothiaid yn rheoli Sbaen, gyda'r Basgiaid yn rhan porllewinol y Pyreneau. Datblygodd dugiaeth Casconia tua 602 yn yr ardal o gwmpas Afon Garonne, dan reolaeth y Ffranciaid. Yn 626 gwrthryfelodd y Basgiaid yn erbyn y Ffranciaid. Yn 660, daeth Felix o Aquitaine yn ddug Aquitaine a Vasconia.

Yn nechrau'r 8g, bu Odo Fawr yn ymladd yn erbyn y Mwslimiaid oedd wedi meddiannu'r rhan fwyaf o Sbaen. Bu ymladd pellach yn erbyn y Ffranciaid dan ei olynwyr Hunald a Waifer. O ganol y 9g, newididd enw'r ddugiaeth i ddugiaeth Gasgwyn.