Nafarroa Beherea
Gwedd
| Math | talaith |
|---|---|
| Poblogaeth | 29,983 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Teyrnas Navarra, Kingdom of Navarre beyond the Pyrenees |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,325 km² |
| Cyfesurynnau | 43.17°N 1.23°W |
![]() | |

Un o’r tair talaith draddodiadol sy’n ffurfio rhan Ffrengig Gwlad y Basg yw Nafarroa Beherea ("Nafarroa Isaf", Ffrangeg: Basse-Navarre. Y brifddinas yw Donibane Garazi (Saint-Jean-Pied-de-Port).
Yn y Canol Oesoedd roedd yn rhan o Deyrnas Navarra, hyd pan ymgorfforwyd y rhan fwyaf o’r deyrnas honno yn Sbaen yn 1512. Parhaodd Nafarroa Isaf yn annibynnol, gan ddod yn rhan o Ffrainc yn ddiweddarach pan ddaeth ei rheolwr, Henrike III o Nafarroa, yn frenin Ffrainc fel Harri IV yn 1589.
Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 28,000, gyda 17, 080 (61%) yn siarad Basgeg.
