Teyrnas Navarra

Oddi ar Wicipedia
Teyrnas Pamplona (melyn) dan Sancho yr Hynaf 1029-1035

Teyrnas yn rhan orllewinol y Pyreneau, yn cyfateb yn fras i diriogaethau hanesyddol Gwlad y Basg (Euskal Herria) oedd Teyrnas Navarra (Basgeg: Nafarroako Erresuma, Sbaeneg: Reino de Navarra). Datblygodd o Deyrnas Pamplona, a sefydlwyd yn 824 gan ei brenin cyntaf, Íñigo Arista.

Ar un adeg, ymestynnai'r deyrnas tu hwnt i Afon Ebro. Sefydlwyd y prifddinasoedd Basgaidd, Vitoria-Gasteiz a Donostia gan Sancho VI, brenin Navarra (Sancho y Doeth).

Parhaodd y deyrnas hyd ddechrau'r 16g, pan oresgynnwyd y deyrnas gan Castilla ac Aragón yn 1512, i ddod yn rhan o Sbaen unedig. Ychydig yn ddiweddarach, daeth rhan ogleddol Navarra, Navarra Isaf, yn annibynnol ar Sbaen, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Ffrainc.