Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg
(Ailgyfeiriad oddi wrth Euskadi)
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Euskal Herria Euskal Autonomi Erkidegoa | |
![]() | |
Math | Gwlad |
---|---|
| |
Prifddinas |
Vitoria-Gasteiz ![]() |
Poblogaeth |
2,167,707 ![]() |
Anthem |
Eusko Abendaren Ereserkia, Gernikako Arbola ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Iñigo Urkullu ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Sbaeneg, Basgeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Gwlad y Basg ![]() |
Sir |
Sbaen ![]() |
Gwlad |
Sbaen ![]() |
Arwynebedd |
7,234 km² ![]() |
Gerllaw |
Môr Cantabria ![]() |
Yn ffinio gyda |
Navarra, La Rioja, Cantabria, Castilla y León, Nouvelle-Aquitaine ![]() |
Cyfesurynnau |
42.98°N 2.62°W ![]() |
ES-PV ![]() | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Lehendakari ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Iñigo Urkullu ![]() |
![]() | |
![]() | |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.924 ![]() |
Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Basgeg: Euskal Autonomi Erkidegoa, Sbaeneg: Comunidad Autónoma del País Vasco) yw'r gymuned ymreolaethol sy'n cynnwys tair talaith fwyaf gorllewinol y rhan o Wlad y Basg sydd o fewn ffiniau Sbaen. Cyfeirir ati hefyd fel Euskadi mewn Basgeg, term a ddefnyddid yn wreiddiol am y cyfan o Wlad y Basg, ond a ddefnyddir fel rheol bellach fel enw am Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg .
Mae'r diriogaeth yn fynyddig, gyda mynyddoedd y Pyreneau a'r mynyddoedd Cantabraidd. Mae llawer o ddiwydiant yno, ac mae'n un o'r rhannau cyfoethocaf o Sbaen. Rhennir yr Euskal Autonomi Erkidegoa yn dair talaith:
- Araba (Álava). Prifddinas: Vitoria (Gasteiz)
- Gipuzkoa (Guipúzcoa). Prifddinas: San Sebastián (Donostia)
- Biskaia (Vizcaya). Prifddinas: Bilbao (Bilbo neu Bilbao mewn Basgeg))
Ceir mudiad ymreolaethol cryf yma.
Prif ddinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Bilbo (354,145)
- Vitoria-Gasteiz (226,490)
- Donostia (Sbaeneg: San Sebastian) (183,308)
- Barakaldo (95,675)
- Getxo (83,000)
- Irun (59,557)
- Portugalete (51,066)
- Santurce (47,320)
- Basauri (45,045)
- Errenteria (38,397)