Getxo
Tref yn nhalaith Bizkaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Getxo (Basgeg: Getxo, Sbaeneg: Guecho). Saif ar ochr dde yr aber a ffurfir gan Afon Ibaizabal ac Afon Nerbioi. Mae'n rhan o ardal ddinesig Bilbo (Gran Bilbao), 14 km o ddinas Bilbo ei hun. Roedd y boblogaeth yn 81,746 yn 2007.
Yn 2001, roedd 19.9% o'r boblogaeth yn medru Basgeg yn dda (o'i gymharu a dim ond 9% yn 1981), 31.5% yn medru rhywfaint o Fasgeg a 48.56% heb fedru dim.
Mae Getxo yn nodedig am Bont Vizcaya sy'n cysylltu Las Arenas, rhan o Getxo, a Portugalete yr ochr arall i'r aber. Hon yw'r enghraifft gyntaf yn y byd o Bont Gludo. Enwyd y bont fel Safle Treftadaeth y Byd yn 2006
Pobl enwog o Getxo[golygu | golygu cod]
- Jose Antonio Aguirre, gwleidydd, Lehendakari cyntaf Llywodraeth Gwlad y Basg