Pont Vizcaya
![]() | |
Math | pont grog ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1893 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q65559821 ![]() |
Lleoliad | Portugalete ![]() |
Sir | Portugalete ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 43.3231°N 3.0169°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, Q65553409, Bien de Interés Cultural ![]() |
Manylion | |
Deunydd | Haearn ![]() |
Pont ar draws aber Afon Nervion sy'n cysylltu trefi Portugalete a Las Arenas (rhan o Getxo) yng nghymuned ymreolaethol Euskadi yw Pont Vizcaya (Basgeg: Bizkaiko Zubia, Sbaeneg: Puente de Vizcaya).
Adeiladwyd y bont yn 1893, yr enghraifft gyntaf yn y byd o Bont Gludo. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn basged crog mawr neu gondola sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Cynlluniwyd hi gan Alberto Palacio, oedd yn ddisgybl i Gustave Eiffel. Mae wedi ei defnyddio yn ddi-dor heblaw am gyfnod o bedair blynedd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, pan ffrwydrwyd y rhan uchaf.
Mae'r bont yn 164 medr o hyd, ac mae'r gondola yn medru cario chwech car a rhai dwsinau o deithwyr. Gall y gondola groesi'r afon mewn munud a hanner, ac mae'n rhedeg bob wyth munud.
Yn 2006 enwyd Pont Vizcaya yn Safle Treftadaeth y Byd.