Munud

Oddi ar Wicipedia
Munud
Enghraifft o'r canlynoluned amser, Unedau ychwanegol at yr Unedau SI, uned sy'n deillio o UCUM Edit this on Wikidata
Mathcyfnod o amser Edit this on Wikidata
Rhan oawr Edit this on Wikidata
Yn cynnwyseiliad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Munud digidol

Mae munud (enw gwrywaidd neu fenywaidd) yn uned o amser sy'n hafal i 60 eiliad neu 1/60ed rhan o awr. Dydy munud ddim yn uned ryngwladol safonol (yr SI) yn swyddogol, ond caiff ei derbyn ar y cyd â'r rhestr hon.[1]

Y symbol ryngwladol am funud ydy min, o'r Saesneg minute.

Mae'n debyg mai'r Babilioniaid ddechreuodd rhannu awr yn chwe-deg rhan, a'r awr (ac eiliad) yn chwe-deg rhan hefyd gan eu bod yn defnyddio system gyfrif wedi'i seilio ar y rhif 60.

Gall munud, ar lafar, olygu "ychydig bach o amser" heb ffiniau pendant o 60 eiliad e.e. yn y linell enwog gan Waldo Williams "Un funud fach cyn elo'r haul o'r wybren..." mae'r bardd yn golygu ysbaid o amser yn hytrach na'r diffiniad mathemategol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-01. Cyrchwyd 2010-07-31.
Chwiliwch am munud
yn Wiciadur.