José Antonio Aguirre
José Antonio Aguirre | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Jose Antonio Aguirre Lecube ![]() 6 Mawrth 1904 ![]() Bilbo ![]() |
Bu farw |
22 Mawrth 1960 ![]() Achos: trawiad ar y galon ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
pêl-droediwr, gwleidydd, cyfreithiwr ![]() |
Swydd |
Lehendakari ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg ![]() |
Gwobr/au |
Diffiniadau ac Anrhydedd Gwlad y Basg ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au |
Athletic Bilbao ![]() |
Safle |
canolwr ![]() |
José Antonio Aguirre i Lecube oedd lehendakari (Arlywydd) cyntaf Gwlad y Basg yn Ystod Rhyfel Cartref Sbaen (6 Mawrth 1904 – 22 Mawrth 1960).
Ganed Aguirre yn Bilbo, a bu'n chwarae pêl-droed i glwb Athletic de Bilbao. Graddiodd yn y gyfraith o Brifysgol Deusto, ac ymunodd a Phlaid Genedlaethol Gwlad y Basg, gan gael ei ethol yn faer Getxo. Ar farwolaeth ei dad, daeth yn rheolwr ffatri siocled y teulu.
Yn nechrau'r 1930au, bu'n flaenllaw yn yr ymdrechion i geisio creu Gwlad y Basg hunanlywodraethol, yn cynnwys Navarra. Roedd yr ymdrechion yma'n parhau pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref ar 1 Hydref 1936. Ar 7 Hydref, etholwyd Aguirre yn "lehendakari", gan gymeryd y llŵ traddodiadol dan y dderwen yn Gernika. Ffurfiwyd llywodraeth Fasgaidd a Byddin Fasgaidd. Parhaodd yr ymladd yng Ngwlad y Basg hyd 1937, pan gipiwyd Bilbo gan fyddin Franco ym mis Mehefin. Bu raid i Aguirre ffoi, a bu mewn alltudiaeth ym Mharis hyd 1941, gan gynnal llywodraeth alltud. Wedi i Ffrainc gael ei meddiannu gan yr Almaen, symudodd i'r Unol Daleithiau. Yn 1946 dychwelodd i Ffrainc, lle ail-ffurfiwyd y Llywodraeth Fasgaidd. Bu farw o drawiad y galon yn 1960.
|