Bae Bizkaia
Math | bae |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bizkaia, Gasgwyn |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd |
Gwlad | Ffrainc, Sbaen |
Arwynebedd | 223,000 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 45.5°N 4.4°W |
Bae mawr ger arfordir Ffrainc a Sbaen yw Bae Bizkaia, hefyd Bae Vizcaya neu Bae Biscay (Sbaeneg: golfo de Vizcaya neu golfo de Gascuña, Ffrangeg: Golfe de Gascogne, Basgeg: Bizkaiko Golkoa). Cymer ei enw o dalaith Bizkaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Weithiau defnyddir Gwlff Gasgwyn amdano; mae'r Atlas Cymraeg Newydd yn dangos "Gwlff Gasgwyn" fel y rhan ddeheuol o'r bae.[1] Mae'r bae, sy'n rhan o Gefnfor yr Iwerydd, yn ymestyn o benrhyn Ajo yn Cantabria (Sbaen) hyd dde Llydaw, ac yn cynnwys arfordir Gwlad y Basg ac Acwitania. Ei led yw tua 320 km (199 milltir).
Ceir nifer o borthladdoedd pwysig yma, yn enwedig Bilbo, Pasajes a Burdeos. Yr unig afon fawr sy'n llifo iddo yw Afon Garonne; ymhlith yr afonydd eraill mae Afon Nervión ac Afon Bidasoa, sy'n ffurfio'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen.
Mae'r bae yn ddwfn ac yn tueddol i gael tywydd mawr ac felly'n gallu bod yn beryglus i longau. Mae'n bysgodfa pwysig: ymhlith y pysgod masnachol a ddelir yno ceir brwyniaid, cod, tiwna a sardîns.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 44.