Hanes Gwlad y Basg
Hanes Gwlad y Basg yw hanes y saith talaith draddodiadol sy'n ffurfio Gwlad y Basg (Euskal Herria), sydd bellach wedi eu rhannu rhwng Ffrainc a Sbaen.
Cred rhai mai'r Basgiaid yw gweddillion trigolion gwreiddiol Gorllewin Ewrop, gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i'r cyfnod Paleolithig, cyn dyfodiad mewnfudwyr o'r dwyrain yn dwyn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Cyfeiria awduron clasurol megis Strabo a Plinius yr Hynaf at lwythau megis y Vascones a'r Aquitani yn byw yn y tiriogaethau hyn, ac mae rhywfaint o dystiolaeth eu bod eisoes yn siarad Basgeg.
Yn y Canol Oesoedd cynnar, adwaenid y diriogaeth rhwng Afon Ebro ac Afon Garonne fel Vasconia, ac am gyfnodau bu yn annibynnol dan Ddugiaid Vasconia. Rhannwyd y diriogaeth yn dilyn concwest y rhan fwyaf o Benrhyn Iberia gan y Mwslemiaid ac ymestyniad teyrnas y Ffranciaid tua'r de dan Siarlymaen. Ymladdwyd Brwydr Ronsyfal ym Mwlch Ronsyfal, ar y ffîn rhwng Sbaen a Ffrainc, ar 15 Awst 778, rhwng rhan ôl byddin Siarlymaen, dan Rolant, arglwydd Mers Llydaw, a byddin y Basgiaid. Lladdwyd Rolant a'i wŷr yn y frwydr.
Yn y 9g, Teyrnas Pamplona oedd y grym mwyaf yn yr ardal, a datblygodd Teyrnas Navarra o'r deyrnas yma'n ddiweddarach. Ym mlynyddoedd cynnar y 16g, unwyd rhan ddeheuol y deyrnas yma a Theyrnas Castilla, tra daeth y rhan ogleddol yn rhan o Ffrainc.
Roedd gan y taleithiau Basgaidd fesur helaeth o hunanlywodraeth yn Sbaen a Ffrainc am gyfnod. Daeth hyn i ben yn Ffrainc yn dilyn Chwyldro Ffrainc, ac yn Sbaen yn dilyn y Rhyfeloedd Carlaidd yn rhan gyntaf y 19g. Crewyd gwladwriaeth Fasgaidd hunanlywodraethol am gyfnod yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, pan ddaeth José Antonio Aguirre yn lehendakari (Arlywydd) cyntaf Gwlad y Basg, gan gymeryd y llŵ traddodiadol dan y dderwen yn Gernika. Ffurfiwyd llywodraeth Fasgaidd a byddin Fasgaidd, Euzko Gudarostea, ond dim ond y tair talaith orllewinol roedd yn eu rheoli; roedd mwy o gefnogaeth i Francisco Franco yn Navarra. Parhaodd yr ymladd yng Ngwlad y Basg hyd 1937, pan gipiwyd Bilbo gan fyddin Franco ym mis Mehefin.
Yn y cyfnod diweddar, mae Cenedlaetholdeb Basgaidd yn anelu at uno'r saith talaith yn wladwriaeth annibynnol.