Dartmoor

Oddi ar Wicipedia
Dartmoor
Mathgweundir Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDyfnaint
Sefydlwyd
  • 1951 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Dartmoor Edit this on Wikidata
SirDyfnaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd954 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr621 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.57°N 4°W Edit this on Wikidata
Map
Deunyddgwenithfaen Edit this on Wikidata

Gwaun yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Dartmoor. Mae'n barc cenedlaethol (arwynebedd 954 km2). Fe'i enwir ar ôl Afon Dart. Ei bwynt uchaf yw High Willhays (621m).

Dydy'r rhan fwyaf o'r waun ddim yn greigiog, ond ceir creigiau ar y copaon a enwir yn torau. Creigiau gwenithfaen ydynt. Mae yma hefyd y clwstwr mwyaf drwy wledydd Prydain o gylchoedd cerrig: tua 340 ohonyn nhw.[1]

Caiff rhannau o'r waun eu defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ymarfer saethu. Mae'r mapiau'n eu dangos fel "danger area" (sef "ardaloedd peryglus"). Mae'r weinyddiaeth yn hedfan baneri coch i rybuddio pobl bod yr ardal yn cael ei defnyddio felly.

High Willhays a Yes Tor

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Ddyfnaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.