Cylch Cerrig Rhos-y-Beddau

Oddi ar Wicipedia
Cylch Cerrig Rhos-y-Beddau
Mathcylch cerrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanrhaeadr-ym-Mochnant Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.86°N 3.39°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMG032 Edit this on Wikidata

Heneb gynhanesyddol a chylch cerrig o Oes yr Efydd ydy cylch cerrig Rhos-y-Beddau, ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys; cyfeirnod OS: SJ058302. Rhif SAM CADW ar y safle yma ydy: MG032.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Saif yr heneb ger cymer dwy ffrwd. Ceir dwy res o feini sy'n arwain yn gyfochrog i'r cylch ei hun. Mae henebion o'r fath yn brin yng Nghymru; ceir enghraifft arall ym Mhowys yn y Cerrig Duon. Nid yw cerrig y ddwy res yn uchel. Ceir 15 yn y rhes ogleddol a 24 yn y rhes ddeheuol gyda bylchau o tua 3 metr rhyngddynt. Mae'r meini hyn yn arwain i'r gorllewin lle ceir y cylch cerrig ei hun. Ceir naw carreg isel yn y cylch ond bu rhagor yno ar un adeg am fod bwlch sylweddol yn ochr orllewinol y cylch.[2]

Mae'n debyg y defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid i ddefodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Data Cymru Gyfan, CADW
  2. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 90.