Cylch Cerrig Cefn Llechen
Math | cylch cerrig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.260023°N 3.879218°W |
Cod OS | SH7474075320 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN124 |
Heneb gynhanesyddol a chylch cerrig o Oes Newydd y Cerrig neu efallai Oes yr Efydd ydy Cylch Cerrig Cefn Llechen , rhwng Penmaenmawr a Henryd, Sir Conwy; cyfeirnod OS: SH747753. Rhif SAM CADW ar y safle yma ydy: CN124.[1]
Mae'r cylch yn anghyflawn. Saif ar hen lwybr cynhanesyddol i'r de-orllewin o Fwlch Sychnant ar ochr deheuol Cefn Llechen uwch ben Dyffryn Conwy. Nid yw'r safle wedi cael ei gloddio gan archaeolegwyr. Aeth rhai o'r cerrig at godi waliau, mae'n debyg. Mae'n un o sawl heneb megalithig a geir yn yr ardal hon, sef yr ucheldir o gwmpas Tal y Fan rhwng Penmaenmawr, Llanfairfechan a'r Rowen. Mewn cae cyfagos, i'r de, ceir maen hir unigol, heb enw. Chwarter milltir i'r gogledd ceir safle cytiau crynion cynhanesyddol, ger Maen Esgob.
Yn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid i ddefodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw. Ceir nifer o gylchoedd cerrig yn yr ardal, gan gynnwys Teml Ceridwen.