Mainland (Ynysoedd Erch)
Gwedd
| Math | ynys, mainland |
|---|---|
| Prifddinas | Kirkwall |
| Poblogaeth | 17,162 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Erch |
| Sir | Ynysoedd Erch |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 540 km² |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
| Cyfesurynnau | 58.9833°N 3.1°W |
| Hyd | 40 cilometr |
![]() | |
Mainland yw'r enw ar brif ynys Ynysoedd Erch (Orkney) yng ngogledd-ddwyrain yr Alban. Mae'r boblogaeth tua 15,000, am yma y ceir dwy dref fwyaf Ynysoedd Erch, Kirkwall a Stromness. Yma hefyd mae Eglwys Gadeiriol Sant Magnus, canolfan grefyddol yr ynysoedd.
Ceir nifer o hynafiaethau Neolithig pwysig ar yr ynys, yn arbennig Cylch Brodgar, cylch cerrig 104 m ar draws, siambr gladdu Maes Howe, a phentref Skara Brae. Dynodwyd y casgliad yma o hynafiaethau yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. I'r de o'r ynys mae bae Scapa Flow.

Pentrefi
[golygu | golygu cod]- Birsay
- Finstown
- Harray
- Orphir
- Sandwick
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Eglwys gadeiriol Sant Magnws (Kirkwall)
- Maes Howe
- Neuadd Clestrain
- Palas yr Iarll (Birsay)
- Palas yr Iarll (Kirkwall)
- Skara Brae
Enwogion
[golygu | golygu cod]- John Rae (1813-1893), fforiwr
- George Mackay Brown (1921-1996), bardd
