Neidio i'r cynnwys

Meini Stenness

Oddi ar Wicipedia
Meini Stenness
Mathsafle archaeolegol, meingylch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCalon Ynysoedd Erch Neolithig Edit this on Wikidata
SirYnysoedd Erch Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd0.8 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau58.9939°N 3.2081°W Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOes Newydd y Cerrig Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, rhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Meini hirion yn Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Meini Stenness (Saesneg: Stones of Stenness). Safant ar ynys Mainland gerllaw'r Loch of Stenness.

Ffurfia'r meini gylch cerrig 30 medr ar draws. Yn wreiddiol roedd 12 maen, ond dim ond pedair sy'n sefyll heddiw. Maent yn dyddio o'r cyfnod Neolithig, rywbryd yn y 3g CC.

Gyda Maes Howe, Skara Brae a Cylch Brodgar, mae Meini Stenness yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn 1999 dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig. Rheolir y safle gan Historic Scotland.

Meini Stenness
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato