North Ronaldsay

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad North Ronaldsay

North Ronaldsay yw'r fwyaf gogleddol o Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban. Mae ei harwynebedd yn 6.9 km², ac mae'r boblogaeth tua 70.

Saif yr ynys tua 60 km i'r gogledd o Kirkwall ar y brif ynys, Mainland. Ceir math arbennig o ddafad yna, "Dafad North Ronaldsay". Yn 1832, adeiladwyd clawdd 19 km o hyd ac 1.5 m. o uchder ar yr ynys i gadw'r defaid i mewn.