John Doyle

Oddi ar Wicipedia
John Doyle
Ganwyd1968 Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgitarydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaIwcs a Doyle, Meic Stevens Edit this on Wikidata

Gitarydd o ardal Bethesda, Gwynedd yw John Doyle (ganwyd 1968).

Ers yr 1980au cynnar, mae John Doyle wedi chwarae mewn sawl band a gyda amryw o artisiaid, gan gynnwys Maffia Mr. Huws a Meic Stevens. Daeth yn fwyaf adnabyddus fel y gitarydd yn y deuawd poblogaidd Iwcs a Doyle o 1996 hyd nes 1998.

Yn ogystal â gweithio fel cerddor, mae John Doyle wedi gweithio fel adeiladwr [1], ac mae hefyd wedi gweithio fel athro gitâr.

Yn 2005, chwaraeodd gitar i'r band Shirimafaro ar y trac Zvinovaka a ymddangosodd ar y CD aml-gyfranog Defaid William Morgan (albwm) [2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]