Dafydd Hedd

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Hedd
Ganwyd9 Mai 2003 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Canwr-gyfansoddwr yw Dafydd Hedd (ganwyd Dafydd Hedd Herbert-Pritchard; 9 Mai 2003). Mae'n enedigol o Fethesda, Gwynedd.[1]

Mae wedi perfformio ers ei fod yn ifanc iawn ac mae'n hoff o fandiau fel The 1975, Panic at the Disco a Twenty One Pilots.

Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, Y Cyhuddiadau ar 31 Awst 2019. O ganlyniad, cafodd Dafydd ei henwebu ar gyfer y categori: “Record Hir Orau’r Flwyddyn” am Wobrau Selar 2019/20. Cafodd hon ei bleidleisio 10fed albwm orau Cymraeg yn 2019.

Ar ôl rhyddhad yr albwm Y Cyhuddiadau, cafodd Dafydd syniad am albym newydd o'r enw Hunanladdiad Atlas. Cafodd y syniad hon ar set yn ffilmio cyfres S4C: Bethesda - Pobol Y Chwarel. Ar yr adeg roedd hyn yn cael ei ffilmio, roedd yna lawer o son yn y newyddion am y crisis hinsawdd. Drwy 'gyfansoddi' wrth ymyl y tân yn yr ardd, cafodd y sbardun o greu'r gân "Fflamdy" sydd bellach allan ar YouTube. Cafodd fideo "Fflamdy" ei gynhyrchu gan cwmni Trac 42 o Benygroes.

Cafodd Hunanladdiad Atlas ei ryddhau ar 4 Ebrill 2020. Cafodd hon ei henwebu am Wobr Selar yn nghategori Record Hir Orau a daeth yn 7fed.

Ar ôl rhyddhau yr albwm hon, ddaru Dafydd Hedd rhyddhau sengl o’r enw "Anghofiai Ddim". Mae’n gân cafodd ei ysgrifennu i hybu gobaith ac hel prês at yr Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol drwy ddweud fod 50% o bres sy’n dod o brynu’r sengl yn mynd i’r wasanaeth. Roedd hyn yn ffordd iddo ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed yn ystod COVID-19.

Ar ôl yr albym hon, aeth Dafydd i Stiwdio Un i recordio'r EP Yr Ifanc Sy'n Gwneud Dim Byd.

Erbyn yr adeg yma, cafodd Dafydd ei hadnabod fel artist indie rock Cymraeg ond roedd newid yn dod gyda ei sengl newydd. Roedd Dafydd Hedd yn hoff iawn o'r artistiaid yn y sin electro fel Endaf, Calvin Harris a Disclosure. Yn rhan o'r Prosiect Sbardun Talent gan y label High Grade Grooves, daeth y gan 'Niwl' allan. Cafodd Niwl ei henwebu yng nghategori Can Orau 2021 ac wedi cyrraedd yr 4 uchaf[2]. Ar ôl cael llwyddiant gyda'r gan hon, dewisia Dafydd i geisio creu can electronic yn unigol o'r enw Atgyfodi. Cafodd y trac ei ryddhau ar Ionawr 14, 2022 ar ei label newydd Bryn Rock Records.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Dafydd Hedd yn rhyddhau ei albwm cyntaf. Y Selar (7 Medi 2019).
  2. "Enwebiad Niwl". 2/2/2022. Cyrchwyd 6/2/2022. Check date values in: |access-date=, |date= (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]