Castell Gronw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Gronw
Math Castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.90204°N 3.59225°W Edit this on Wikidata

Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Castell Gronw, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: Llangywer, Llanuwchllyn, Gwynedd; cyfeiriad grid SH930350. Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry.

Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: ME067 .[1]

Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato