Owen Smith
Owen Smith AS | |
---|---|
![]() | |
Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yr wrthblaid | |
Yn ei swydd 14 Mehefin 2017 – 23 Mawrth 2018 | |
Arweinydd | Jeremy Corbyn |
Rhagflaenwyd gan | David Anderson |
Dilynwyd gan | Tony Lloyd |
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau | |
Yn ei swydd 13 Medi 2015 – 27 Mehefin 2016 | |
Arweinydd | Jeremy Corbyn |
Rhagflaenwyd gan | Stephen Timms (dros dro) |
Dilynwyd gan | Debbie Abrahams |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid | |
Yn ei swydd 15 Mai 2012 – 13 Medi 2015 | |
Arweinydd | Ed Miliband |
Rhagflaenwyd gan | Peter Hain |
Dilynwyd gan | Nia Griffith |
Gweinidog Cymru yr wrthblaid | |
Yn ei swydd 25 Medi 2010 – 15 Mai 2012 | |
Arweinydd | Ed Miliband |
Rhagflaenwyd gan | Wayne David |
Dilynwyd gan | Nia Griffith |
AS dros Pontypridd | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2010 | |
Rhagflaenwyd gan | Kim Howells |
Mwyafrif | 8,585 (22.5%) |
Manylion personol | |
Ganwyd |
2 Mai 1970 Morecambe, Lloegr |
Plaid wleidyddol | Ceidwadwyr |
Priod | Liz Smith |
Alma mater | Prifysgol Sussex |
Aelod Seneddol dros Bontypridd yw Owen Smith (ganwyd 2 Mai 1970)[1] a hynny ers Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, pan etifeddodd sedd Kim Howells (Llafur) a benderfynodd roi'r gorau iddi fel AS.[2] Cyn hynny bu'n gynhyrchydd radio gyda'r BBC.
Fe'i ganwyd yn Morecambe, Lloegr. Mae e'n fab i'r hanesydd Cymreig David "Dai" Smith, cyd-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.[3]
Ymunodd gyda'r Blaid Lafur pan oedd yn 16 oed. Astudiodd hanes a Ffrangeg ym Mhrifysgol Essex cyn troi at y BBC i weithio fel cynhyrchydd radio lle gweithiodd am gyfnod o ddeg mlynedd ar raglenni o Lundain a Chaerdydd.[4]
Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 2002 trodd at wleidyddiaeth gan weithio fel cynghorydd i Paul Murphy, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru a dilynodd ef yn ei waith i Ogledd Iwerddon.
Yn 2006 ymgyrchodd yn aflwyddiannus am sedd ym Mlaenau Gwent (mewn Is-etholiad), a enillwyd gan yr annibynwr Dai Davies. Llwyddodd i gipio Pontypridd yn 2010 a daeth yn aelod o Bwyllgor Materion Cymreig y Llywodraeth.
Herio arweinyddiaeth Llafur, 2016[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymddiswyddodd o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn ar 27 Mehefin 2016 ynghyd a nifer o gyd-aelodau y Blaid Lafur oherwydd "eu diffyg hyder" yn yr arweinydd.[5] Honnodd Smith fod Corbyn yn barod i weld y blaid yn rhannu, gan ysgrifennu ar Twitter: "On July [sic] 27 I asked @jeremycorbyn 3 times if he was prepared to see our party split & worse, wanted it to. He offered no answer. In the same meeting, in response to the same question @johnmcdonnellMP shrugged his shoulders and said 'if that's what it takes'."[6]
Yng Nghorffennaf 2016 datganodd Smith ei fwriad i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn erbyn Jeremy Corbyn, yn dilyn cyhoeddiad Angela Eagle ei bod am sefyll. Dywedodd ei fod yn cefnogi nifer o bolisiau Corbyn ond nad oedd Corbyn yn "arweinydd gall ein arwain i etholiad ac ennill dros Lafur".[7]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Who's Who". ukwhoswho.com.
- ↑ "Election 2010: Pontypridd". Wales Online. Cyrchwyd 7 Mai 2010.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-18077671
- ↑ "Former BBC Producer selected for Pontypridd". Wales Online. Cyrchwyd 7 Mai 2010.
- ↑ Saith AS Llafur Cymru yn ymddiswyddo , Golwg360, 27 Mehefin 2016. Cyrchwyd ar 19 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Owen Smith MP: Corbyn 'prepared to see Labour split'", BBC News, 10 July 2016
- ↑ Rowena Mason, "Owen Smith to challenge Corbyn for Labour leadership", The Guardian, 13 July 2016
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Kim Howells |
Aelod Seneddol dros Bontypridd 2010 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Peter Hain |
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru 15 Mai 2012 – 13 Medi 2015 |
Olynydd: Nia Griffith |
Rhagflaenydd: Stephen Timms dros dro |
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau 13 Medi 2015 – 27 Mehefin 2016 |
Olynydd: Debbie Abrahams |