Ad-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru, 2015

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Yn Ebrill 2013 cyhoeddwyd fod Llywodraeth Cymru am gynnal Ad-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru gyda'r bwriad o dorri'r nifer o siroedd o 22 i tua 12. Argymhelliad gan y Comisiwn Williams oedd y dylid cwtogi nifer cynghorau Cymru o 22 i 12, 11 neu 10 ac ymchwiliwyd i'r ad-drefnu gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews a gyhoeddodd ei Adroddiad ar 17 Mehefin 2015. Gofynwyd i'r Awdurdodau lleol a fyddent yn dymuno uno gyda sir arall, ond dim ond chwe chyngor a fynegodd eu diddordeb mewn uno, ond dywedodd Andrews na fyddai'n ystyried eu ceisiadau gan nad oeddent yn ddigon cryf.[1]

Y rheswm dros yr ad-drefnu oedd er mwyn arbed arian, gyda llai oːgynghorwyr, aelodau cabined, arweinwyr ayb. Yn ôl Janet Finch-Saunders AC, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr yng Nghymru, bod y broses o ad-drefnu “wedi bod yn shambls o’r dechrau i’r diwedd”.[2]

Comisiwn William[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Ebrill 2013, cyhoeddwyd lansio archwiliad i lywodraeth leol yng Nghymru drwy Gomisiwn; Cadeirydd y Comisiwn oedd Syr Paul Williams, gyda'r unig bwrpas o gynilo'r gwariant ar awdurdodau lleol.[3]

Ar 20 Ionawr cyhoeddodd Comisiwn Williams ei adroddiad a oedd yn argymell uno awdurdodau er mwyn lleihau'r niferoedd. Diystyrwyd newid yn y ffiniau. Argymhellwyd rhwng 10 a 12 awdurdod lleol newydd ac y byddai'r gost o'u huno'n cael ei ateb mewn arbedion dros ddwy flynedd.[4]

Dau opsiwn[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 17 Mehefin 2015 cynigiodd Leyton Andrews ddau opsiwnː naill ai 8 awdurdod lleol neu 9. Mae'r opsiwn cyntaf yn cynnwys tri yng Ngogledd Cymru, a'r ail yn cynnwys dau awdurdod. Yn yr opsiwn cyntaf, bydd Ynys Môn a Gwynedd; Conwy a Sir Ddinbych; a Sir y Fflint a Wrecsam yn uno i greu tri awdurdod. Mae'r ail opsiwn yn creu dau awdurdod, tipyn mwyː Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy; a Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae’r opsiwn cyntaf yn dod ag Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot at ei gilydd, tra byddai’r ail hefyd yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Yn y ddau opiswn, bydd Caerdydd a Bro Morgannwg yn uno'n y de, ac unir hefyd Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd. Mae Powys yn parhau fel ag y mae yn y ddau opsiwn.

Dywedodd Andrewsː “O ran y Gogledd, nid yw’n gwbl glir ai dau ynteu tri awdurdod lleol fyddai orau. Rydym yn teimlo felly bod lle i drafod ymhellach a byddem yn croesawu sylwadau.

“Hoffwn bwysleisio nad hwn yw’r penderfyniad terfynol – yn hytrach, dyma’r cam diweddaraf yn ein trafodaeth gyhoeddus.”

Yn ymateb i hyn dywedodd Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “Fel cam cyntaf, mae Dyfodol i’r Iaith yn gofyn am ymrwymiad y bydd unrhyw gyngor newydd yn y gogledd-orllewin yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg fel sy’n digwydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd.”[5]

Yr Awdurdodau Lleol rhwng 1994 a 2015[golygu | golygu cod y dudalen]

Wales Administrative 2009 v5 Welsh.png

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Daily Post dyddiedig 22 Rhagfyr 2014; adalwyd 16 Mehefin 2015
  2. www.golwg360; adalwyd 16 Mehefin 2015
  3. Local councils in Wales could be cut after review, BBC News, 19 Ebrill 2013.
  4. Williams Commission report calls for fewer councils, BBC News, 20 Ionawr 2014.
  5. www.walesonline.co.uk; adalwyd 17 Mehefin 2015

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]