Gwrth-Ddiwygiad
| Enghraifft o: | religious controversy, mudiad cymdeithasol, athrawiaeth, reform movement, Religious revival |
|---|---|
| Rhan o | y Diwygiad Protestannaidd, Catholigiaeth |
| Dechrau/Sefydlu | 1545 |
| Dechreuwyd | 1545 |
| Daeth i ben | 1648 |
| Lleoliad | Gorllewin Ewrop, Canolbarth Ewrop |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01j973 |
| Thesawrws y BNCF | 30081 |
| Quora | Catholic-reformation |

Mudiad o fewn yr Eglwys Gatholig wedi'i ymgysegredu i frwydro yn erbyn canlyniadau'r Diwygiad Protestannaidd a'u dadwneud trwy ddiwygio camarferion yn yr Eglwys a dileu heresïau, ac ati, oedd y Gwrth-Ddiwygiad (neu'r Gwrth-Ddiwygiad Catholig). Gellid dadlau iddo ddechrau'n ffurfiol gyda Chyngor Trent (1545 - 1563), a agorwyd gan y Pab Pawl III yn unswydd er mwyn atgyfnerthu'r Eglwys yn wyneb y datblygiadau chwyldroadol yng ngwledydd Protestannaidd gogledd Ewrop.
Roedd ceisio adfer "Yr Hen Ffydd" yn y gwledydd Protestannaidd newydd, fel Lloegr, Cymru, Yr Iseldiroedd a gwladwriaethau gogledd Yr Almaen yn rhan ganolog o'i strategaeth.
Roedd y Gwrth-Ddiwygiad ar ei anterth yn ail hanner yr 16g ond parhaodd hyd ganol y ganrif olynol. Gwelwyd sefydlu Cymdeithas yr Iesu (y Jeswitiaid) a'i datblygu i fod yn gorff cenhadol a anfonai offeiriad i bob rhan o'r byd, o Beriw i Tsieina a Siapan, ymestyn y Chwil-lys i wledydd eraill fel Sbaen a'r Amerig, a cheisio adfer bywyd ysbrydol a seiliau athronyddol yr Eglwys.
Ar waethaf yr erlid dan Elisabeth I, brenhines Lloegr ceisiodd y Catholigion wrthsefyll Protestaniaeth. Roedd angen cael cenhadon cyfrinachol i efengylu yng Nghymru a Lloegr. Mewn canlyniad sefydlwyd Coleg Douai yn Ffrainc i'w hyfforddi.