Thomas Huet

Oddi ar Wicipedia
Thomas Huet
Thomas Huet ar 'Gofeb y Cyfieithwyr' yn Llanelwy.
Bu farw19 Awst 1591 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata

Clerigwr ac un o gyfieithwyr y Beibl i'r Gymraeg oedd Thomas Huet (m 19 Awst 1591).

Mae’n debyg mai yn Sir Frycheiniog y cafodd ei eni. Bu'n aelod o Coleg Corpus Christi, Caergrawnt (cyn 1544), ac wedyn yn feistr Coleg y Drindod Sanctaidd, Pontefract, Swydd Efrog. Cafodd nifer o swyddi eglwysig yng Nghymru rhwng 1559 a 1565. O 1562 i 1588 roedd yn godwr canu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.[1] Cyn-sylfaenydd Coleg yr Iesu, Rhydychen, oedd ef.

Cynorthwyodd Huet Richard Davies, Esgob Tyddewi, a’r ysgolhaig William Salesbury, i gyfieithu’r Testament Newydd i’r Gymraeg (1567). Roedd gan Huet gyfrifoldeb arbennig am gyfieithu Llyfr y Datguddiad.

Bu farw Huet ar 19 Awst 1591 yn Nhŷ Mawr, Llysdinam, Sir Frycheiniog, a chafodd ei gladdu yng nghangell eglwys Llanafan Fawr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]