Gwenhwyseg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Y Wenhwyseg)
Jump to navigation Jump to search
Cymraeg
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Tafodiaith Gymraeg Gwent a Morgannwg yw y Wenhwyseg. Daw'r enw o'r term ar hen drigolion yr ardal, y Gwennwys. Roedd yn cael ei siarad o Abertawe yn y gorllewin i Drefynwy yn y dwyrain. Mae'r dafodiaith hon wedi colli tir yn sylweddol hyd at ddifancoll oherwydd twf yr iaith Saesneg yn yr ardal a'r Cymry yn troi cefn arni ac yn fwy ddiweddar am fod iaith Cymraeg safonol y De yn cael ei sylfaenu ar Gymraeg gorllewinol y Ddyfedeg yn ysgolion Cymraeg y De-ddwyrain.

Mae sawl nodwedd yn dangos y gwahaniaeth rhwng Gwenhwyseg fel y'i siaredid yng nghanol a dwyrain Morgannwg a Chymraeg safonol: defnydd o eiriau lleol, yr æ fain, caledu'r cytsain (b,d,g) o dan rai amgylchiadau penodol, prinder ch ar ddechrau gair ac ymwrthod a'r ffonem h oni ddynodir pwyslais, sylweddoli ae ac au gan a yn y sillaf olaf a bod y 'frawddeg annormal' yn norm yn rhai o is-dafodieithoedd y Wenhwyseg.

Geiriau a ffurfiau lleol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel pob rhan arall o Gymru, ceir sawl gair lleol sy'n cael ei ddefnyddio bob dydd.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Gair y De Gair y Gogledd Datblygiad
Bopa Modryb - - -
nithir gwneud - - gwneuthur > nithir
Wlîa / wilia Siarad - - Chwedleua > Wedleua > Wlîa
sgleish rhaw fach (i godi cols o'r tãn)
cwplo cwblhau cwpla / bennu gorffen cwblhau > cwpla > cwplo
gwed [gwe:d] dywedyd / dweud gweid deud
y gwir a wesbwd y gwir a ddywedwyd / dyna'r gwir

Gwenhwyseg yw'r unig dafodiaith Gymraeg i gadw'r ffurf hynafol -ws terfynol yn y Trydydd Person Modd Gorffennol (mae pob tafodiaith arall yn defnyddio -odd yn yr un lle). Ceir enghreifftiau o'r ffurf yma yn Y Gododdin, e.e. "Gwyr a aeth Gatraeth gan wawr, Dygymyrrws eu hoet eu hanianawr" yn lle "...Dygymyrrodd..." ac ati.

Yr æ fain[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Yr A Fain

Un o nodweddion y Wenhwyseg yn nwyrain a chanol Morgannwg a chyn belled ã Dyffryn Afan yw'r newidiad yn y llafariad a hir i'r ddeusain æʌ:

"ə tæʌd ar mæʌb ar əsbrɪd glæʌn'" yn lle "y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân".

Newidir y ddeusain 'ae' yn yr un ffordd:

'Cymraeg' - 'kəmræʌg'
'traed' - 'træʌd'
'cae' - 'kæʌ'

Deusain yw hon sydd yn amrywio rhyw ychydig dros diriogaeth y Wenhwyseg (llafariad bur æ yw hi mewn rhai ardaloedd). Ni ddigwydd y nodwedd hon mewn geiriau unsill ag [a] fer fel 'mam' a 'naw' fel sydd yn digwydd yn rhai o dafodieithoedd Maldwyn.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol
Cæth Cath
Cymræg Cymraeg
Mæb Mab
Tæd Tad

Caledu'r cytseiniaid: b d g > p t c[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae calediad y cytseiniaid b/ d / g yn nodwedd amlwg o'r Wenhwyseg ond nid yr un geiriau a galedir ym mhob tafodiaith. Gellir bod yn nodwedd gryfach mewn un ardal nag un arall er bod yr un amodau cyd-destunol priodol yn bodoli.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol
Catar Cadair
Catw Cadw
Patall Padell
gwpod gwybod
dicon digon

Colli ch a h[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y Wenhwyseg, mae pobl yn anfodlon iawn i ddefnyddio'r sŵn ch neu h, ac felly mae sawl gair yn colli'r sŵn hwnnw, e.e. chwarae > hwarae > hwara > wara (fel "wara teg") ac hwn, hwwna, hon, honna, hyn a hynny.

Defnyddio a yn lle e olaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n gyffredinol o lafar y De i golli'r cytseiniol i ar ddechrau sillaf derfynol, ac hefyd yn y De-ddwyrain y e olaf i troi i a. Yr un peth yn digwydd i synau tebyg fel ai ac au.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Datblygiad
Bedda Beddau -
Camsynad Camsynied -
Catar Cadair -
Sgitsha Esgidiau Esgidiau > sgitsha

Defnyddio geiriau benthyg o Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Gair Saesneg
dandjeris peryglus dangerous
ffrenshach siarad (ffrangeg) talking french (jabbing)
sgrego - to scrag (to strangle)
sgrimpo bod yn grintachlyd to scrimp
shimpil twp simple minded

Enwau llefydd lleol[golygu | golygu cod y dudalen]

Am y rhesymau a nodir uchod, mae'r Wenhwyseg yn newid yr ynganiad yn achos rhai enwau llefydd lleol. Yn aml, mae ynganiad y dafodiaith Saesneg leol yn agosach at y Wenhwyseg nag at yr ynganiad Cymraeg safonol.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Datblygiad
Bedda Beddau y ddeusain au yn cael ei hynganu fel a
Braman Aberaman Aberaman > Beraman > Braman
Brocwr Aberogwr Aberogwr > Aberocwr > Berocwr > Brocwr
Ocwr Ogwr -
Abardæʌr Aberdar -

Dylanwad ar dafodiaith Saesneg yr ardal[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Wenhwyseg wedi cael effaith ar y Saesneg sy'n cael ei siarad yn yr ardal hefyd, gyda siaradwyr Saesneg yn defnyddio geiriau a chystrawen Cymraeg (gweler Wenglish), e.e. What is on her? (Beth sydd arni?); You can count on 'er wen there's taro.[1]

Mae nodweddion y Wenhwyseg i'w clywed yn y tafodieithoedd Saesneg lleol hefyd, yn enwedig yn ardal Caerdydd a'r Cymoedd. Yng Nghaerdydd, defnyddir ae yn lle a yn gyffredinol iawn, fel yn yr ymadrodd "Cærdiff Ærms Pærk" ('Cardiff Arms Park'). Fel arfer, dydy pobl y Cymoedd ddim yn defnyddio'r llythyren h, felly yngenir y geiriau Saesneg "Year", "Ear" ac "Hear" yr un fath, h.y. fel [jœː].

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]