Radio Cymraeg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cymraeg
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Darlledu yn y Gymraeg ar radio'r BBC[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyndyn iawn oedd y BBC i ddarlledu yn Gymraeg a Gaeleg yn nyddiau cynnar radio.[1] Cynhyrchai gorsaf darlledu Caerdydd peth o'i deunydd ei hun yn y 1920au, gan gynnwys ambell i gân a sgwrs Gymraeg. Ar orsaf 5WA, Caerdydd, y clywyd Cymraeg gyntaf erioed ar y radio ar 13 Chwefror, 1923 ar gân gan Mostyn Thomas, ac ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1923 ar lafar gan y Parchedig Gwilym Davies ac yna gan Huw J. Huws.[2] Ond ardal Caerdydd yn unig a glywai'r darllediadau Cymraeg hyn. Yr unig raglen Gymraeg a glywid ledled Cymru oedd y rhaglen a ddarlledwyd o 1927 ymlaen o Ddulyn.[1] Roedd arweinyddiaeth y BBC yn cynnal polisi darlledu cenedlaethol Brydeinig a Seisnig ac yn gwrthod sefydlu gwasanaeth Cymreig na Chymraeg am hir amser. Wedi ymgyrchu dygn yng Nghymru caniatawyd i stiwdio Bangor gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o 1935 ymlaen. Darllediad gan David Lloyd George ar 8 Tachwedd 1923 oedd y darllediad Cymraeg cyntaf o stiwdio Bangor.[2]

Roedd Pwyllgor Darlledu Prifysgol Cymru yn rhan bwysig o'r ymgyrchu ac erbyn 1937 llwyddwyd i sefydlu Rhanbarth Cymreig y BBC yn lle rhanbarth y Gorllewin ('Teyrnas y Brenin Arthur') a gynhwysai de-orllewin Lloegr yn ogystal â Chymru.[1] Roedd cwynion gwrandawyr de-orllewin Lloegr am yr ychydig oriau o ddarlledu Cymraeg hefyd yn rhan o'r pwysau ar y BBC i sefydlu'r Rhanbarth Cymreig. Ond pan ddechreuodd yr ail ryfel byd diddymwyd gwasanaeth Rhanbarth Cymru'r BBC. Bu raid i Undeb Cymru Fydd ymgyrchu dros adfer y darllediadau Cymraeg. Llwyddwyd i gael tair awr a hanner yr wythnos erbyn 1940. 1940 oedd y flwyddyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ar y radio.

Adferwyd gwasanaeth radio Rhanbarth Cymru yn 1945 ond bu'n rhaid disgwyl hyd 1977 cyn y cafwyd y gwasanaeth Cymraeg cyflawn cyntaf, sef Radio Cymru ar y BBC. Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd cyntaf Radio Cymru. Dim ond yn ystod y bore y darlledwyd rhaglenni ar y dechrau, ond erbyn heddiw mae rhaglenni Cymraeg yn dechrau am 5 o'r gloch y bore ac yn terfynu am 1 o'r gloch y bore wedyn. Mae'n bosib clywed y rhaglenni hyn ar y we, hefyd. Darlledir rhaglen frecwast arbennig (yng nghwmni Ray Gravell cyn ei farwolaeth yn 2007) bob bore Llun i Gwener ar gyfer de-orllewin Cymru yn fyw o stiwdio'r BBC yng nghanol Abertawe.

Darlledu yn y Gymraeg ar radio masnachol[golygu | golygu cod y dudalen]

Darlledir yn rhannol yn Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol hefyd. Mae Champion 103 yng Nghaernarfon yn darlledu i Ynys Môn a Gwynedd ar 103 FM gyda rhaglenni Cymraeg adeg brecwast a'r prynhawn. Dan gytundeb ag Ofcom i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn hafal am o leiaf 12 awr bob dydd.

Mae 'chwaer orsaf' Champion 103, Coast 96.3, yn darlledu i lannau'r gogledd gyda rhaglenni Cymraeg gyda'r nos. Dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf awr o raglen Gymraeg bob dydd rhwng dydd Sul a dydd Gwener.

Mae Classic Gold Marcher yn ngogledd ddwyrain Cymru a rhannau o Sir Gaer yn rhannu rhaglenni Cymraeg Champion 103 a Coast 96.3. Dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf awr o raglen Gymraeg bob dydd rhwng dydd Sul a dydd Gwener.

Mae Radio Ceredigion yn darlledu ers 1992 o Aberystwyth ar 96.6, 97.4 a 103.3 FM. Dan gytundeb ag Ofcom mae'n fod i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, ond ers iddo gael ei gymryd drosodd gan y cwmni darlledu Seisnig Town and Country Broadcasting mae wedi cael ei feirniadu gan Gyfeillion Radio Ceredigion am ddarlledu "bron yn gyfan gwbl yn Saesneg". Mae Ofcom yn arolygu'r sefyllfa.[3]

Mae 1170 Sain Abertawe wedi darlledu rhaglenni Cymraeg fel arfer yn y nosweithiau ers 1974 gydag ychydig o Gymraeg i'w chlywed adeg brecwast. Yr orsaf hon sy'n gyfrifol am ddechrau gyrfaoedd nifer o ddarlledwyr y BBC, megis Siân Thomas, Garry Owen a Huw Edwards. Dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf 12 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos.

Roedd 'chwaer orsaf' Sain Abertawe, Valleys Radio, a oedd yn darlledu ar draws cymoedd y de o'i stiwdio yng Nglyn Ebwy, yn cynnig tair awr o raglenni Cymraeg bob nos Sul rhwng 7yh a 10yh. (Angharad Rhiannon Davies oedd yn cyflwyno.) Roedd dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf 2 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos ac hyrwyddo defnydd yr iaith. Daeth i ben Ddydd Iau, 30 Ebrill, 2009, am 10yb.

Mae Radio Sir Gâr dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu rhaglenni Cymraeg gyda'r hwyr ers ei sefydliad, ond cafwyd dadleuon a phrotestio ynglŷn â'u tuedd i hepgor y cytundeb hwn.

Mae Radio Acen, sydd â'i stiwdio yng Nghaerdydd, yn darlledu rhaglenni Cymraeg yn arbennig ar gyfer dysgwyr drwy'r dydd ar y we.

Credir bod GCap Media, sy'n berchen ar Champion, Coast a Red Dragon yng Nghaerdydd yn ystyried cychwyn gorsaf Gymraeg ar DAB yn y Brifddinas.

Mae Radio Sir Benfro dan gytundeb ag Ofcom i ddarlledu o leiaf 1 rhaglen Gymraeg bob wythnos.

Mae Bridge FM ym Mhen-y-bont ar Ogwr dan gytundeb ag Ofcom i hyrwyddo'r Gymraeg.

Dan gytundeb ag Ofcom, dylai 96.4FM The Wave yn Abertawe ddefnyddio'r Gymraeg ar adegau priodol, ond nid oes sôn am hyn ar yr orsaf.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 John Davies, Hanes Cymru, tt 542, 566 (The Penguin Press, 1990)
  2. 2.0 2.1 Gwyn Jenkins, Andy Misell, a Tegwyn Jones, Llyfr y Ganrif, tud. 101 (y Lolfa, 1999)
  3. "Dim digon o Gymraeg ar Radio Ceredigion", Newyddion BBC Cymru, 22.10.2010.

Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gellir gweld cytundebau pob gorsaf radio masnachol ar wefan Ofcom

Cyswllt allanol[golygu | golygu cod y dudalen]