Cymraeg y Wladfa
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Cymraeg | ||||||||
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar | ||||||||
y Gymraeg
| ||||||||
Tafodiaith Cymraeg a sieredir yn y Wladfa yw Cymraeg y Wladfa. Mae rhwng 5,000[1] a 12,500[2] o bobl yn ei siarad fel mamiaith.
Cyfuniad o dafodieithoedd ar draws Cymru yw Cymraeg y Wladfa: clywir geiriau gogleddol a deheuol gan yr un siaradwr. Ceir dylanwad y Sbaeneg ar ynganiad ac ar eirfa, er enghraifft dywed nifer o Wladfawyr sobrino a sobrina yn lle'r geiriau Cymraeg "nai" a "nith".[3] Enghraifft arall yw'r ymadrodd "siarad drwy'r ffôn", sy'n efelychu'r ffurf Sbaeneg por teléfono, yn hytrach na "siarad ar y ffôn" fel yng Nghymru. Defnyddir geiriau llanw Sbaeneg, megis este a bueno, wrth siarad Cymraeg.[4]
Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar agor / Open yn y Gymraeg a'r Saesneg yn Nhrelew.
Tŷ te yn y Gaiman.
Closed (Sbaeneg: Cerrado) / Ar Gau, Porth Madryn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Wales and Argentina". Wales.com. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-16. Cyrchwyd 23 Ionawr 2012. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Western Mail, 27 Rhagfyr 2004
- ↑ Julie Brake a Christine Jones. Teach Yourself World Cultures: Wales (Hodder & Stoughton, 2004), t. 36–37.
- ↑ Sut mae tafodiaith y Gymraeg wedi datblygu yn Y Wladfa?, BBC Cymru Fyw (22 Tachwed 2017). Adalwyd ar 4 Rhagfyr 2017.