Roedd gan Thomas Gee ran allweddol yn natblygiad y wasg Gymraeg yn y 19g. Ei gyfraniad unigol pwysicaf efallai oedd cyhoeddi Baner Cymru yn 1857 (Baner ac Amserau Cymru ar ôl hynny, newyddiadur mwyaf dylanwadol ei ddydd.
Y Byd oedd i fod y papur newydd dyddiol Cymraeg cyntaf, ond fe fethodd i gael digon o arian i gyhoeddi. Caiff Y Cymro ei gyhoeddi'n wythnosol. Mae papurau bro – papurau cymunedol a gaiff eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr – wedi dod yn brif nodwedd diwylliant newyddiaduro Cymru yn ystod y tri degawd diwethaf.
Ar-lein ceir gwefan Golwg360 sy'n cynnwys adrannau newyddion o Gymru, gwledydd Prydain a'r byd yn ogystal â newyddion chwaraeon a.y.b.
E. Morgan Humphreys, Y Wasg Gymraeg (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1944). Arolwg byr ond defnyddiol, Cyfres Pobun.
T.M. Jones, Llenyddiaeth Fy Ngwlad: Hanes y Newyddiadur a'r Cylchgrawn Cymreig yng Nghymru, America ac Awstralia (Treffynnon, 1893). Er ei bod wedi dyddio erys y gyfrol yn ffynhonnell werthfawr ar hanes cynnar y wasg Gymreig yn ddwy iaith.
Huw Walters, Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1735-1850/Bibliography of Welsh Periodicals 1735-1850 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1984)
Huw Walters, Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1851-1900/Bibliography of Welsh Periodicals 1851-1900 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2004)