Gwasg y Brython
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | cyhoeddwr, gwasg |
---|---|
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Olynwyd gan | Gwasg Gomer |
Perchennog | Hugh Evans a'i Feibion |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Sylfaenydd | Hugh Evans |
Pencadlys | Lerpwl |
Gwasg a chwmni cyhoeddi a sefydlwyd yn 1897 yn Lerpwl, gogledd-orllewin Lloegr, gan Hugh Evans, oedd Gwasg y Brython.
Fel nifer o'i gydwladwyr o ogledd Cymru, symudodd Hugh Evans o'i bentref genedigol, Llangwm, Sir Ddinbych i gael gwaith yn y ddinas fawr dros y ffin. Sefydlodd wasg argraffu yno yn 1897.
Er fod y wasg wedi ei lleoli yn ninas Lerpwl, llyfrau Cymraeg oedd prif gynnyrch Gwasg y Brython. Daeth yn enw cyfarwydd ar silffoedd Cymry llengar yr 20g. Un o'i gyhoeddiadau oedd y newyddiadur wythnosol Y Brython. Roedd cyhoeddiadau eraill y wasg yn cynnwys y cylchgrawn llên arloesol Y Beirniad (lawnsiwyd 1911). Cyhoeddodd Hugh Evans ei lyfrau ei hun hefyd, yn cynnwys y clasur Cwm Eithin (1931).