E. Meirion Roberts
Gwedd
E. Meirion Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 1913 |
Bu farw | 2000, 1995 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd |
Arlunydd o Gymro oedd E. Meirion Roberts (1913–2000).
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Y Bala. Daeth i amlygrwydd fel darlunydd a chynlluniwr siacedi llwch yn y 1940au. Ceir rhai cannoedd o enghreifftiau o'i ddawn mewn llyfrau plant Cymraeg o'r cyfnod hwnnw ymlaen. Cyfrannodd ddarluniau i sawl llyfr i oedolion yn y Gymraeg a'r Saesneg yn ogystal, e.e. siaced lwch y nofel fer Ffarwel Weledig gan Albert Evans-Jones (Cynan) a'r casgliad o ysgrifau Cyn Oeri'r Gwaed gan Islwyn Ffowc Elis.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]John Gruffydd Jones a Robert Owen (gol.), Darlun o Arlunydd: E. Meirion Roberts (Gwasg Gwynedd, 1995). ISBN 10-0860741192.