DAB

Oddi ar Wicipedia
Logo DAB

Technoleg darlledu radio digidol yw DAB (Digital Audio Broadcasting), adnabyddir hefyd dan yr enw Eureka 147.

Y pwrpas gwreiddiol o drosi darlledu radio yn ddigidol oedd i alluogi lefel uwch o gywirdeb yn y darlledu, i gael mwy o orsafoedd radio a gwrthsafiad cryfach i sain cefndirol, i osgoi ymyrydaeth gan ddarlledu rhyng-lwybr a sianeli eraill, fel y mae ar radio analog FM. Ond, ym Mhrydain, Denmarc, Norwy a'r Swistir, sef y gwledydd arweiniol yn nhrefn gweithredu'r dechnoleg DAB, mae gan y rhanfwyaf o orsafoedd radio DAB ansawdd sain is nag FM[1][2] oherwydd fod y cyfradd 'bit' (Saesneg:bit rate) a ddefnyddir ar gyfer DAB yn rhy isel[3][4]. Mae hyn yn cymryd yn ganiataol fod gan y gwrandawr dderbyneb dda ar DAB yn ogystal ag FM. Gall FM ddioddef o wanhau pan mae'r derbynnydd yn teithio ar gyflymder uchel, megis mewn car, tueddai technoleg DAB i deidio dioddef o hyn i'r un raddau. Gyda derbynebfa llonydd, gall FM ddioddef o sẃn hisian cefndirol pan fydd y signal yn wan, ond bydd hyn yn achosi sẃn debyg i 'swigod mewn mwd' ar radio DAB.

Yn mis Tachwedd 2006, datganodd WorldDMB fod y system DAB yn y broses o gael ei wella, ac y byddai'n ymdopi'r AAC+ audio codec i wella effeithlonrwydd y system a galluogi cywiro cryfach yn y broses o ddad-gódi'r darlledu. Golygai hyn fod dwy system DAB erbyn hyn: yr un presennol a ddatblygwyd ar ddiwedd y 1980au, a fersiwn gwell sy'n cael ei ddisgwyl, "DAB+". Nid yw derbynnydd DAB presennol yn cydweddu gyda DAB+ dosbarth newydd, disgwylir i dderbynyddion sy'n cydweddu â DAB+ fod ar gael rhywbryd yn ystod Haf 2007.

Mi fydd newid drosodd i dechnoleg DAB+ yn cymryd lle DAB yn yr holl wledydd a ddefnyddir DAB. Bydd gwledydd lle nad yw technoleg DAB wedi dod i'r amlwg ar y farchnad boblogaidd yn rhydd i ddefnyddio DAB+ o'r cychwyn.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]