A
Jump to navigation
Jump to search
A yw’r llythyren a’r llafariad gyntaf yn yr wyddor Gymraeg a’r wyddor Ladin. Mae hi’n debyg i’r llythyren alffa o’r hen Roeg. Mae fersiwn bras y llythyren yn cynnwys dwy linell ar osgo fel triongl, gyda bar llorweddol yn eu cysylltu yn y canol. Gellir ysgrifennu'r llythyren fach ar ddwy ffurf: fel a neu fel ɑ.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Hynafiad cynharaf y lythyren A yw aleff, sef lythyren gyntaf yr wyddor Phoenicaidd. Mae'n bosib bod aleff wedi tarddu o bictogram o ben ychen yn ysgrif hieroglyffig yr Hen Aifft a'r wyddor proto-Sinaïtig.
Hieroglyff pen ychen yr Eifftwyr | Pen ychen Proto-Sinaïtig | Aleff | Alffa Groeg | A Etrwscaidd | A Rhufeinig |
---|---|---|---|---|---|