Aardvark
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | insectivore, mamal |
Màs | 1.9 ±0.1 cilogram |
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Orycteropus |
Dechreuwyd | Mileniwm 6. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aardvark | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Uwchurdd: | Afrotheria |
Urdd: | Tubulidentata Huxley, 1872 |
Teulu: | Orycteropodidae Gray, 1821 |
Genws: | Orycteropus Cuvier, 1798 |
Rhywogaeth: | O. afer |
Enw deuenwol | |
Orycteropus afer (Pallas, 1766) |
Mamal tyrchol o faint canolig yw'r aardvark (enw rhywogaeth Orycteropus afer) a geir mewn rhannau o Affrica is-Saharaidd. Daw'r enw o'r iaith Affricaneg ac mae'n golygu ‘mochyn daear’. Ceir hefyd yr enwau Cymraeg baedd daear (gwryrwaidd, lluosog: baeddod daear) a grugarth (benywaidd, lluosog: grugeirth).[1] Yr aardvark yw unig aelod ei urdd, Tubulidentata.
Anifail nosol yw'r aardvark. Mae oedolion yn tyfu i hyd at 1.5m. Mae'n byw mewn tiroedd glaswelltog fel y safana ac mae ganddo drwyn hir, clustiau mawr a chynffon dew.
Defnyddia'r aardvark ei grafangau hir i dyllu ffau yn y ddaear ac agor twmpathau morgrug gwynion (termitiaid) i'w llyfu i fyny â'i dafod hir.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1 [aardvark].