Yr A Fain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Newidiad yn y llafariad a hir i'r ddeusain äë yw'r A fain. Mae e'n cael ei glywed yn nhafodiaith Gwenhwyseg a thrwy ganolbarth Cymru. Mae e'n digwydd hefyd yng ngeiriau gyda unsill a byr fel "mam" a "naw" yn rhai o dafodieithoedd Maldwyn ond dyw hyn ddim yn digwydd yng Ngwenhwyseg. Mae'r ddeusain yn digwydd i eiriau gyda'r llythyrau ae yn yr un ffordd hefyd, e.e. Cymraeg > Cymræg, traed > træd, cae > cæ.

Sŵn lafar yn unig yw e, felly does dim llythyr arbennig amdano. Os bydd rhywun eisiau ei ysgrifennu yn arbennig wedyn mae e'n gyffredinol i ddefnyddio æ, äë neu é.

Sŵn yr A fain[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae a yn newid i'r ddeusain äë yng Ngwent, Morgannwg a sawl ardaloedd Maldwyn, ac yn y De mae pobl fel arfer yn creu sŵn trwynol wrtho fe. Deusain yw'r A fain a nid yw e'r un sŵn â sŵn mewn geiriau megis 'pen', 'pren', 'pert' ac ati.

Mae'r A fain yn cael ei glywed mewn ychydig o ymadrodd enwog fel "y Tæd a'r Mæb a'r Ysbryd Glæn" ("y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân").

Ardaloedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y De, roedd yr A fain fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar draws Gwent a Morgannwg[1] (yng Ngwenhwyseg) ond dyw e ddim yn gyffredin yn cael ei glywed nawr trwy golli iaith yr ardal ac mae'r Gymraeg sydd newydd dyfu yn yr ardal yn gymysg o dafodieithoedd eraill. Mae e'n byw o hyd ar draws ganolbarth Cymru o Fachynlleth i Benybontfawr, yn Nolgellau, ac yr holl ffordd i Harlech.[2]

Yr A fain yn Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nodweddion yr ynganiad Gwenhwyseg yn nhafodiaith Saesneg Gwent a Morgannwg hefyd, yn enwedig yn ardal Caerdydd, lle mae e'n nodwedd o'r acen Caerdydd ac mae pobl yn meddwl fod e'n sŵn eithaf dosbarth gweithiol (felly mae e'n dechrau diflannu hefyd). Roedd e'n gyffredinol iawn i ddefnyddio æ yn lle a yn Saesneg yng Nghaerdydd, fel yn yr ymadroddion "'ærf a dærk" ("half a dark") neu "Cærdiff Ærms Pærk" ("Cardiff Arms Park").

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]