Aled Roberts

Oddi ar Wicipedia
Aled Roberts
Ganwyd17 Mai 1962 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Bu farw13 Chwefror 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, Comisiynydd y Gymraeg, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Democratiaid Rhyddfrydol Edit this on Wikidata

Gwleidydd a chyfreithiwr o Gymru oedd Aled Roberts (17 Mai 196213 Chwefror 2022). Roedd yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Wrecsam yn 1991, cyn cael ei wneud yn faer y fwrdeistref yn 2003, ac yna arweinydd y cyngor yn 2005.[1] Roedd yn Aelod o'r Cynulliad dros Ranbarth Gogledd Cymru rhwng 6 Mai 2011 a 6 Mai 2016. Roedd hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu cynlluniau addysg Gymraeg. Fe'i benodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg yn 2019.

Comisiynydd y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Ar 1 Ebrill 2019, fe'i penodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg, gan ddilyn Meri Huws. Treuliodd y tri mis cyntaf yn dod i adnabod anghenion Cymry ledled y wlad, er mwyn deall eu profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg ac i ddeall beth sy'n cymell pobl sy'n medru siarad Cymraeg i ddefnyddio'r iaith, neu beidio gwneud hynny, yn eu bywydau bob dydd.

Fe ges i fy magu ar aelwyd Gymraeg ei hiaith yn Rhos; ond Saesneg oedd iaith fy addysg. Er bod fy nghriw ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg, Saesneg oedden ni'n ei siarad efo'n gilydd. Nid tan imi ddod adref am y Nadolig ar ôl treulio tymor cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth y sylwais ein bod ni'n colli allan ar gymaint drwy beidio â siarad Cymraeg efo'n gilydd; ac felly mi wnaethon ni benderfyniad un noson i droi i siarad Cymraeg efo'n gilydd o hynny ymlaen. Doedd hi ddim yn hawdd newid, ac mi gymerodd ychydig fisoedd i ni ddod i arfer; ond mi oedd hi'n bosib, a Chymraeg ydyn ni wedi ei siarad efo'n gilydd byth wedyn.[2]

Bywyd personol a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Magwyd Aled yn Rhosllannerchrugog ac roedd yn byw yno gyda'i wraig a'i ddau fab. Mynychodd Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd yn cymryd rhan weithgar yn ei gymuned, gan fod yn ysgrifennydd Capel Ebeneser a'r Stiwt.[3]

Bu farw ar 13 Chwefror 2022 yn 59 mlwydd oed ar ôl salwch byr.[4] Cafodd teyrngedau iddo ar draws llawr y Senedd, gan Gymdeithas yr iaith, ei gydweithwyr a'i ffrindiau.[5]

Fideo o Aled Roberts yn disgrifio ei swydd gyntaf


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts wedi marw yn 59 oed , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2022.
  2. comisiynyddygymraeg.cymru; gwefan Llywodraeth Cymru; Archifwyd 2019-05-18 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Mai 2019.
  3. http://www.aledroberts.org.uk/?page_id=1288 Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. Gwefan swyddogol Aled Roberts
  4. "Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi marw yn 59 oed". Golwg360. 2022-02-14. Cyrchwyd 2022-02-14.
  5. "Teyrngedau i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg a "rhyddfrydwr ymroddedig"". Golwg360. 2022-02-14. Cyrchwyd 2022-02-14.