Agorwyd Y Stiwt, Rhosllannerchrugog ym 1926.[1] Rhwng 1924 a 1926 penderfynodd Sefydliad Lles y Glowyr fod ceiniog yn cael ei chodi am bob tunnell o lo oedd yn cael ei godi o lofeydd lleol, a chodwyd bron i £18,000 ar gyfer codi'r adeilad. Ar ôl hynny roedd cost cynnal a chadw'r Stwit yn dod drwy dynnu dwy geiniog yr wythnos o gyflogau'r glowyr.[2]
Hyd at 1977 roedd iddo sawl pwrpas gwahanol: sinema, theatr, neuadd gyngerdd, canolfan snwcer, ddawnsio ac yn glwb cymdeithasol.[3] Caewyd y Stiwt ym 1977 a phenderfynodd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam ddymwchel yr adeilad ym 1985, ond cafwyd ymgyrch i'w achub ac ailagorwyd y Stiwt ar ôl ymdrechion lleol a grant o £2.1 miliwn gan Gronfa Etifeddiaeth y Loteri ym 1999.[2]