Cymdeithas Iolo Morganwg

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Iolo Morganwg
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas hanesyddol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cymdeithas hanes byrhoedlog a sefydlwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1988 yw Cymdeithas Iolo Morganwg.

Ysbrydlwyd y sefydlwyr gan agwedd radicalaidd, gweriniaethol a chenedlaethol Iolo Morganwg a'r bwriad i creu diwylliant a hanes.

Cennad y Gymdeithas oedd poblogeiddio hanes Cymru i gyd-fyrywry a'r cyhoedd. Roedd y gymdeithas yn annibynnol o'r brifysgol a'r Adran Hanes.

Cyhoeddwyd 3 rhifyn o ffansîn y Gymdeithas, 'Seren Tan Gwmwl'. Enwyd y ffansîn ar ôl cylchgrawn radical enwog Jac Glan-y-gors adeg y Chwyldro Ffrengig. Gwerthwyd y ffansîn drwy'r post, mewn gigs cerddorol ac mewn rhai siopau Cymraeg. Cedwir copiau o'r ffansîn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu'r Gymdeithas hefyd yn trefnu darlithoedd agored gan haneswyr megis Dr John Davies ar gyfer aelodau'r cyhoedd a chyd-fyfyrwyr.

Sefydlwyr y Gymdeithas[golygu | golygu cod]

Sefyldiwyd y Gymdeithas gan dri myfyriwr hanes yn y brifysgol; Siôn Jobbins, Owen Llewelyn ac Ioan Wyn Evans.

Roedd tâl aelodaeth i'r cyhoedd a casglwyd aelodaeth yn Ffair y Glas, aelodau UMCA, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.