Ffredrig II, brenin Prwsia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffredrig II, brenin Prwsia
Friedrich Zweite Alt.jpg
Ganwyd 24 Ionawr 1712 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Awst 1786 Edit this on Wikidata (74 oed)
Achos: Clefyd Edit this on Wikidata
Sanssouci Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Deyrnas Prwsia, Yr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Cyfansoddwr, Ysgrifennwr, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd prince-elector, brenin Edit this on Wikidata
Tad Frederick William I of Prussia Edit this on Wikidata
Mam Sophia Dorothea of Hanover Edit this on Wikidata
Priod Elisabeth Christine of Brunswick-Wolfenbüttel-Bevern Edit this on Wikidata
Perthnasau Margrave Frederick William of Brandenburg-Schwedt, Siôr I, Sophia Dorothea of Celle, Sophia Charlotte of Hanover, Frederick I of Prussia, Frederick, Margrave of Brandenburg-Bayreuth, Frederick William II of Prussia, Margravine Elisabeth Louise of Brandenburg-Schwedt, Sophia o Hanover, Sophia Charlotte of Hanover, Siôr II Edit this on Wikidata
Llinach House of Hohenzollern Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd yr Eryr Du, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Andrew, Pour le Mérite, Urdd Brenhinol y Seraffim Edit this on Wikidata
Ffredrig Fawr

Brenin teyrnas Prwsia o 1740 hyd ei farwolaeth oedd Ffredrig II, a adwaenir hefyd fel Ffredrig Fawr neu ei lysenw der Alte Fritz (24 Ionawr 171217 Awst 1786).

Roedd yn aelod o deulu'r Hohenzollern, yn bedwerydd plentyn i Ffredrig Wiliam I, brenin Prwsia a'i wraig Sophia Dorothea o Hannover. Priododd Elisabeth Christine van Brunswijk-Bevern, ond ni chawsant blant, ac olynwyd ef gan ei nai, Ffredrig Wiliam II.

Roedd Ffredrig yn gadfridog disglair, ac hefyd yn wladweinydd galluog. Yn Rhyfel Olyniaeth Awstria, cipiodd diriogaeth Silesia, gan gynyddu poblogaeth ei deyrnas o tua 50%. Roedd Maria Theresia, ymerodres Awstria, yn ei gasau oherwydd hyn, a bu hyn yn un o achosion y Rhyfel Saith Mlynedd. Yn wyneb ymosodiadau Awstria a Rwsia, enillodd Ffredrig nifer o fuddugoliaethau syfrdanol, ond gan fod adnoddau Awstria a Rwsia gymaint mwy na'i eiddo ef, roedd ar fin cael ei orchfygu. Achubwyd ef pan fu farw tsarina Rwsia, Elisabeth I yn 1761. Roedd ei holynydd, Pedr III, yn edmygu Ffredrig yn fawr, a gwnaeth gytundeb heddwch ag ef. Wedi i Pedr gael ei lofruddio, olynwyd ef gan Catrin II, oedd hefyd yn gyfeillgar â Ffredrig.

Roedd Ffredrig yn hoff iawn o gerddoriaeth, ac nid yn unig yn noddi cyfansoddwyr ond yn cyfansoddi ei hun. Ei gyfansoddiadau yn cynnwys Der Hohenfriedberger Marsch (c.1745).