Taeog

Taeog yn y Canol Oesoedd oedd person oedd yn rhan o haen isaf cymdeithas, oedd yn rhwym wrth y tir a heb hawl i'w adael heb ganiatad ei arglwydd. Roedd gan yr arglwydd neu'r tirfeddiannwr yr hawl i orfodi'r taeog i weithio ar diroedd yr arglwydd yn ddi-dâl. Ar un adeg roedd y system yn gyffredin trwy Ewrop ac mewn rhannau eraill o'r byd, ac mewn rhai gwledydd parhaodd hyd yn 19g, er enghraifft yn Rwsia, lle rhyddhaodd Alexander II y taeogion ym 1861.
Credir i'r system yma ddatblygu o gaethwasiaeth amaethyddol yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.
Taeogion yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Yng Nghymru, nodir yng Nghyfraith Hywel fod tri dosbarth mewn cymdeithas: y brenin, y breyr (y tirfeddiannwr rhydd) a'r taeog. Nid oedd y taeog heb hawliau cyfreithiol, ond roeddynt yn llai na hawliau'r ddau ddosbarth arall. Er enghraifft, yn ôl Cyfraith Hywel roedd sarhad taeog yn llai, ac roedd rhai crefftau na allai taeog ei dysgu i'w fab heb ganiatad ei arglwydd, sef gofaniaeth, ysgolheictod a barddoniaeth, oherwydd roedd unrhyw un oedd yn dilyn y swyddogaethau hynny yn ŵr rhydd. Gelwid tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol yn faerdref. Dechreuodd y drefn ddadfeilio oherwydd effeithiau'r Pla Du yn y 14g, pan achubodd llawer o daeogion ar y cyfle i adael y tir.
Taeogaeth byd-eang
[golygu | golygu cod]
Ni ddiddymwyd taeogaeth mewn rhannau mawr o Ewrope nes ddiwedd y 18g (yn rannol yn sgîl y Chwyldro Ffrengig a choncwest Napoleon o llawer o'r hen drefn fonarchaidd a yna yn hwyrach yn y 19g mewn rhannau eraill o'r cyfandir. Bu'n rhaid aros yn hwy fyth mewn rhannau eraill o'r byd nes diddymu taeogaeth.
Noder y rhestr isod o'r dyddiadau pan diddymwyd taeogaeth na unwyd y tiroedd Almaenig nes 1870 ac felly ceir gwahanol ddyddiadau ymryddhau, noder hefyd, nad oedd nifer o'r gwledydd yma'n annibynnol ar y pryd e.e. Estonia ac felly cafwyd ymryddhad fel rhan o wladwriaeth neu ymerodraeth fwy.
- Catalwnia 21 Ebrill 1486
- Wallachia 5 Awst 1746; diwygiadau tir 1864
- Moldofa 6 Awst 1749; diwygiadau tir 1864
- Teyrnas Sardinia 19 Rhagfyr 1771
- Ffrainc cam cyntaf 1779; ail gam 1789
- Awstria cam cyntaf 1 Tachwedd 1781; ail gam 1848
- Bohemia cam cyntaf 1 Tachwedd 1780; ail gam 1848
- Baden 23 Gorffennaf 1783
- Denmarc 20 Mehefin 1788
- y Swistir 4 Mai 1798
- Serbia 1804 de facto; 1830 de jure
- Schleswig-Holstein 19 Rhagfyr 1804
- Pomerania Swedeg 4 Gorffennaf 1806
- Dugaeth Warsaw 22 Gorffennaf 1807
- Prwsia 9 Hydref 1807; dod i rym 1811–1823
- Mecklenburg Hydref 1807; dod i rym 1820
- Bafaria 31 Awst 1808
- Tywysogaeth Nassau 1 Medi 1812
- Estonia 23 Mawrth 1816
- Kurland (ardal orllewinnol Latfia) 25 Awst 1817
- Württemberg 18 Tachwedd 1817
- Livonia (ardal ogleddol Latfia) 6 Mawrth 1819
- Hannover 1831
- Saxony 17 Mawrth 1832
- Hwngari 11 Ebrill 1848 (tro cyntaf), 2 Mai 1853 (ail dro)
- Croatia 8 Mai 1848
- Ymerodraeth Awstria 7 Medi 1848
- Bwlgaria 1858 de jure; 1880 de facto
- Ymerodraeth Rwsia 19 Chwefror 1861
- Tonga 1862
- Georgia 1864–1871
- Kalmykia 1892
- Bosnia a Hertsegofina 1918
- Afghanistan 1923
- Bhutan 1959
Taeog mewn diwylliant Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae'r term "taeog" yn cael ei arddel mewn diwylliant Gymraeg fel term o sarhâd ac yn arbennig at agwedd wasaidd at y wladwriaeth Brydeinig neu'r iaith Saesneg.
Defnyddia Dafydd Iwan y term yn ei gân enwog, Yma o Hyd [1] lle cenir
Chwythed y gwynt o'r Dwyrain
Rhued y storm o'r môr
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr
Llifed dagrau'r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr![2]
Term mewn gemau
[golygu | golygu cod]Caiff y term "taeog" ei arddel mewn gemau bwrdd fel gwyddbwyll a draffts i gyfeirio at y darn chwarae mwyaf elfennol a di-rym.