Wicipedia:Ar y dydd hwn/Gorffennaf
1 Gorffennaf: Diwrnod cenedlaethol Canada; Diwrnod annibyniaeth Rwanda (1962);
Dydd Gŵyl Gwenafwy
- 1690 – ymladdwyd Brwydr y Boyne rhwng Wiliam III, brenin Lloegr, a'i ragflaenydd Iago II yn Iwerddon
- 1804 – ganwyd y nofelydd Ffrengig George Sand (Amantine Lucile Aurore Dupin) ym Mharis
- 1847 – cyflwynwyd Brad y Llyfrau Gleision i Lywodraeth Lloegr
- 1915 – ganwyd y bardd Eingl-Gymreig Alun Lewis yn Aberdâr
- 1969 – bu farw Alwyn Jones a George Taylor, ymgyrchwyr yn enw Mudiad Amddiffyn Cymru, yn dilyn ffrwydriad
- 1999 – datganolwyd rhai pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
- 2016 – Cymru'n ennill y gêm yn erbyn Gwlad Belg 3-1 yn y Pencampwriaeth UEFA Euro 2016
2 Gorffennaf: Gŵyl mabsant Euddogwy
- 437 – Valentinian III yn dechrau teyrnasu fel Ymerawdwr Rhufain yn y gorllewin.
- 1489 – ganwyd Thomas Cranmer, archesgob Caergaint (m. 1556)
- 1523 – cynhaliwyd Eisteddfod Caerwys a chrewyd system o feirdd yn ôl eu statws
- 1644 – Rhyfel Cartref Lloegr: Brwydr Marston Moor
- 1778 – bu farw Jean-Jacques Rousseau, athronydd Ffrengig, 66 oed.
3 Gorffennaf: Gŵyl Mabsant Peblig; Diwrnod annibyniaeth Belarws (1944)
- 1088 – lladdwyd y Norman Robert o Ruddlan gan bicellau gwŷr Gruffudd ap Cynan ger Pen y Gogarth
- 1423 – ganwyd Louis XI, brenin Ffrainc
- 1868 – yn Rhyfel Cartref America, enillwyd Brwydr Gettysburg gan fyddin yr Undeb; ystyrir hyn yn drobwynt yn y rhyfel
- 1883 – ganwyd Franz Kafka, awdur yn yr iaith Almaeneg, yn Mhrag
- 1938 – torrwyd record cyflymder y byd ar gyfer locomotifau stêm gan y Mallard, yn ymyl Grantham
- 1958 – ganwyd y cyflwynydd teledu Siân Lloyd ym Maesteg
- 1969 – cyhoeddwyd Abertawe yn ddinas
- 1776 – enillodd Unol Daleithiau America eu hannibyniaeth oddi wrth Brydain
- 1807 – ganwyd Giuseppe Garibaldi, gwladgarwr a milwr
- 1842 – ganwyd Catherine Prichard (Buddug), ffeminsist, a'r bardd a sgwennodd y gerdd ‘O na byddai'n haf o hyd'
- 1894 – ganwyd William Ambrose Bebb, hanesydd, llenor a gwleidydd
- 1899 – defnyddiwyd y Cledd Mawr am y tro cyntaf yng Ngorsedd y Beirdd; cynlluniwyd gan Hubert von Herkomer
- 1934 – bu farw'r cemegydd a'r radiolegydd Marie Curie
5 Gorffennaf Dydd Gŵyl Sant Cennydd
- 1755 – ganwyd Sarah Kemble, yn hwyrach Sarah Siddons, actores, yn Aberhonddu
- 1946 – arddangoswyd y bicini ym Mharis am y tro cyntaf
- 1948 – sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y DU
- 1977 – disodlwyd Prif Weinidog etholedig cyntaf Pacistan, Zulfiqar Ali Bhutto, pan gipiodd y fyddin awdurdod dan arweiniad Muhammad Zia ul-Haq
6 Gorffennaf: 1975 — Diwrnod Annibyniaeth Comores.
- 1415 – llosgwyd yr athronydd a'r diwygiwr crefyddol Tsiecaidd Jan Hus wrth y stanc
- 1450 – bu farw y milwr Mathau Goch
- 1821 – ganwyd Henry Hussey Vivian, diwydiannwr a gwleidydd (m. 1894)
- 1960 – bu farw Aneurin Bevan
- 1971 – priododd y gantores o Sweden Agnetha Fältskog gyda Björn Ulvaeus
7 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Ynysoedd Solomon (1978)
- 1860 – Ganwyd y cyfansoddwr Gustav Mahler
- 1916 – Dechreuodd Brwydr Coed Mametz, rhan o Frwydr Cyntaf y Somme
- 1962 – Bu farw y dramodydd D. T. Davies
- 2005 – Lladdwyd 56 o bobl ac anafwyd 700 mewn ymosodiad terfysgol ar Lundain.
- 1557 – sefydlwyd Ysgol Friars, Bangor, un o ysgolion hynaf Cymru
- 1721 – bu farw Elihu Yale, a roes ei enw i Brifysgol Yale yn yr Unol Daleithiau; fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys San Silyn, Wrecsam
- 1836 – ganwyd Joseph Chamberlain, gwleidydd
- 1859 – bu farw John Thomas (Siôn Wyn o Eifion), bardd ac emynydd
- 1958 – cychwynnodd Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad yng Nghaerdydd
9 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth De Swdan (2011)
- 68 – bu farw Nero, ymerawdwr Rhufain
- 1786 – bu farw John Ystumllyn, un o'r bobl ddu gyntaf yng Nghymru y ceir cofnod o'u hanes.
- 1787 – Ganwyd y bardd a'r golygydd Taliesin Williams (Taliesin ab Iolo) yng Nghaerdydd
- 1932 – Bu farw'r bardd Pedrog (John Owen Williams); bu'n Archdderwydd o 1928 hyd 1932
- 2002 – Bu farw'r actor Americanaidd Rod Steiger
- 2010 – Bu farw'r awdur a'r ysgolhaig Enid Pierce Roberts; ei maes oedd llenyddiaeth Gymraeg yr 16eg ganrif
10 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth y Bahamas (1973)
- 138 – bu farw Hadrian, ymerawdwr Rhufain
- 1099 – bu farw'r marchog Sbaenaidd El Cid (Rodrigo Díaz de Vivar)
- 1557 – Robert Recorde yn defnyddio'r hafalnod = am y tro cyntaf
- 1819 – cyfarfu Gorsedd y Beirdd am y tro cyntaf mewn eisteddfod genedlaethol, sef Eisteddfod Caerfyrddin 1819
- 1871 – ganwyd y nofelydd Ffrengig Marcel Proust
- 1991 – daeth Boris Yeltsin yn Arlywydd cyntaf Ffederasiwn Rwsia
11 Gorffennaf: Dynodwyd Cymru'n 'Wlad Fasnach Deg' gynta'r byd.
- 1274 – ganwyd Robert I (Robert de Brus), brenin yr Alban;
- 1811 – ganwyd William Robert Grove, dyfeisiwr y gell danwydd, yn Abertawe
- 1905 – 119 o löwyr yn marw mewn ffrwydrad yng ngwaith glo'r National yn Wattstown, y Rhondda Fach
- 1937 – bu farw George Gershwin, cyfansoddwr
- 1989 – bu farw Syr Laurence Olivier, actor
12 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth São Tomé a Príncipe (1975) a Ciribati (1979); Dydd Gŵyl Dogfan
- 1543 – priodas Harri VIII, brenin Lloegr, a Catrin Parr
- 1598 – lladdwyd John Jones (sant) yn Southwark drwy grogi, diberfeddu a chwarteru, ar gyhuddiad o fod yn offeiriad Catholig
- 1910 – bu farw Charles Rolls, cyd-syflaenydd y cwmni Rolls-Royce, mewn damwain awyren
- 1941 – arwyddodd Prydain a'r Undeb Sofietaidd gytundeb i gynorthwyo'i gilydd yn erbyn yr Almaen
- 1947 – ganwyd Gareth Edwards, chwaraewr rygbi byd-enwog
- 1527 – Ganwyd John Dee, mathemategydd, alcemydd ac athronydd
- 1734 – Bu farw Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc
- 1942 – Ganwyd Hywel Gwynfryn, cyflwynydd radio
- 1954 – Bu farw'r arlunydd Fecsicanaidd Frida Kahlo
- 1972 – Agorwyd Rheilffordd Llyn Tegid hyd at Bentrepiod
14 Gorffennaf: diwrnod y Bastille (Gŵyl genedlaethol Ffrainc); Gŵyl Sant Dogmael
- 1789 – cipiwyd carchar y Bastille yn y Chwyldro Ffrengig
- 1842 – ganwyd William Abraham (Mabon)
- 1877 – bu farw Richard Davies (Mynyddog) yn 44 oed; bardd ac awdur geiriau "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg", "Myfanwy" a phennill gwreiddiol "Sosban Fach"
- 1892 – agoriad swyddogol Llyn Llanwddyn (Llyn Fyrnwy); boddwyd 2 gapel, 3 tafarn, 10 fferm a 37 o gartrefi gan Lerpwl
- 1966 – etholwyd Gwynfor Evans yn aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru.
- 1573 – Ganwyd y pensaer Inigo Jones yn Llundain
- 1761 – Ganwyd Walter Davies (Gwallter Mechain), bardd a golygydd – ac un o sylfaenwyr y cylchgrawn Y Gwyliedydd
- 1799 – Darganfuwyd Carreg Rosetta gan Pierre-François Bouchard ym mhorthladd Rossetta ('Rashid' heddiw) yn yr Aifft
- 1858 – Ganwyd y swffraget Seisnig Emmeline Pankhurst
- 1919 – Ganwyd Iris Murdoch, nofelydd o Iwerddon, ac awdur Under the Net
- 1911 – ganwyd y ddawnswraig a'r seren ffilmiau Ginger Rogers
- 1945 – taniwyd y bom atomig am y tro cyntaf erioed mewn anialwch ger Los Alamos, Mecsico Newydd
- 1949 – ganwyd yr actores Angharad Rees yng Nghaerdydd
- 1969 – lawnsiwyd llong ofod Apollo 11
- 1989 – ganwyd y pêl-droediwr Gareth Bale yng Nghaerdydd
17 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Slofacia (1992)
- 1203 – cipiwyd Caergystennin yn y Bedwaredd Groesgad
- 1790 – rhoddwyd patent i Thomas Saint ar gyfer peiriant gwnïo, y cyntaf o'i bath
- 1860 – bu farw'r nyrs Betsi Cadwaladr, fu'n gweithio yn Balaclava
- 1976 – hawliodd Indonesia Dwyrain Timor fel "ein 27fed rhanbarth" a lladdwyd dros 100,000 o bobl
- 1976 – cynhaliwyd Ras yr Wyddfa am y tro cyntaf
- 1807 – bu farw'r mathemategydd Thomas Jones
- 1908 – priododd J. Glyn Davies, Lerpwl, gyda Hettie Williams o Geinewydd; ef oedd awdur Cerddi Huw Puw a llawer o gerddi eraill am y môr.
- 1918 – ganwyd y gwladweinydd Nelson Mandela
- 1958 – agorwyd Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad yng Nghaerdydd
- 1970 – ganwyd y cerddor Gruff Rhys yn Hwlffordd, Sir Benfro
- 2022 – cafwyd y diwrnod poethaf ers cadw cofnodion tywydd, a hynny ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, gyda thymheredd o 37.1C
- 1838 – bu farw Christmas Evans, un o bregethwyr mawr y Bedyddwyr
- 1912 – ganwyd Ganwyd Enoch Rowland Jones canwr a chwaraewr iwffoniwm, yng Ngwauncaegurwen, Dyffryn Aman
- 1958 – ganwyd Angharad Tomos, awdur Cymraeg
- 1970 – ganwyd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban
20 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Colombia (1810)
- 1843 – Ymosodiad gan Rebeca a'i merched ar Dollborth Rhyd Y Pandy, Treforys
- 1944 – Cafwyd ymgais gan rai o uwch-swyddogion byddin yr Almaen i ladd Adolf Hitler a chipio grym: Cynllwyn 20 Gorffennaf
- 1969 – Apollo 11 yn glanio ar y lleuad a Neil Armstrong yn camu allan
- 1890 – Bu farw David Davies (Llandinam), 71, diwydiannwr
21 Gorffennaf: Diwrnod cenedlaethol Gwlad Belg
- 1403 – Brwydr Amwythig rhwng lluoedd Harri IV a Harri Percy
- 1773 – bu farw Howel Harris, un o arloeswyr y Diwygiad Methodistaidd
- 1899 – ganwyd y nofelydd Americanaidd Ernest Hemingway
- 1904 – agoriad swyddogol Argae Dyffryn Elan, pan foddwyd capel, eglwys, ysgol a nifer o ffermydd er mwyn cyflenwi dŵr i Birmingham.
- 2005 – ffrwydrodd pedwar bom ar system cludiant cyhoeddus Llundain, yn dilyn cyfres arall o ffrwydradau bythefnos ynghynt
22 Gorffennaf: Dydd gŵyl Mair Fadlen
- 1298 – Brwydr Falkirk rhwng lluoedd Edward I a William Wallace
- 1378 – llofruddiwyd Owain Lawgoch etifedd olaf llinach tywysogion Aberffraw
- 1937 – bu farw Alfred George Edwards, Archesgob cyntaf Cymru
- 1943 – diwedd Brwydr Kursk, y frwydr danc fwyaf erioed, rhwng byddin yr Almaen a byddin yr Undeb Sofietaidd yn Rwsia
- 1966 – boddwyd 18 o bobl mewn damwain fferi ar aber Afon Mawddach
- 1967 – ganwyd Rhys Ifans, actor, yn Hwlffordd, Sir Benfro
- 776 CC – Cynhaliwyd y gemau Olympaidd cyntaf i gael eu cofnodi yn Olympia, Gwlad Groeg
- 1745 – glaniodd Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie) ar ynys Eriskay yn yr Alban i geisio ennill brenhiniaeth yr Alban i'w dad
- 1955 – ailagorwyd Rheilffordd Ffestiniog o Borthmadog hyd at Boston Lodge
- 1951 – bu farw Philippe Pétain, milwr a gwleidydd Ffrengig
- 1963 – diwrnod cyntaf Sioe Amaethyddol Cymru yn Llanelwedd, gyda 13,971 o bobl yn ymweld â hi.
- 1783 – ganwyd Simón Bolívar, arwr cenedlaethol ym Molifia, Colombia, Ecwador, Feneswela a Pheriw
- 1802 – ganwyd Alexandre Dumas, awdur Ffrengig
- 1824 – ganwyd R. J. Derfel, awdur a gwladgarwr a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru
- 1895 – ganwyd Robert Graves, bardd a nofelydd Sesisnig
- 1969 – dychwelodd criw Apollo 11 i'r Ddaear, wedi ymweliad â'r Lleuad
- 1980 – bu farw yr actor Peter Sellers yn Llundain
25 Gorffennaf: Diwrnod cenedlaethol Galisia, Gŵyl Sant Cristoffer
- 306 – cyhoeddwyd Cystennin I yn ymerawdwr Rhufain
- 1201 – bu farw Gruffudd ap Rhys II, tywysog Deheubarth
- 1603 – coronwyd Iago VI, brenin yr Alban yn Iago I, brenin Lloegr
- 1895 – ganwyd Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru
26 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Liberia (1847) a'r Maldives (1965)
- 1856 – ganwyd y dramodydd George Bernard Shaw yn Nulyn
- 1908 – ganwyd Salvador Allende, arlywydd Chile, yn Valparaíso
- 1952 – bu farw Eva Perón, cyn-lywydd yr Ariannin, yn 33 oed yn Buenos Aires
- 1969 – ganwyd yr athletwraig Tanni Grey-Thompson yng Nghaerdydd
- 1989 – ganwyd yr athletwraig Olivia Breen, enillydd dwy fedal Aur yng Ngemau'r Gymanwlad (2018 a 2022).
- 1593 – merthyrwyd yr offeiriad William Davies yng Nghastell Biwmares
- 1841 – bu farw Mikhail Lermontov, bardd a nofelydd yn yr iaith Rwseg
- 1885 – bu farw yr arlunydd Penry Williams yn Rhufain
- 1921 – bu farw y llenor John Jones (Myrddin Fardd) yn Chwilog
- 1967 – pasiwyd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 (Hughes Parry)
28 Gorffennaf: Gŵyl mabsant Samson
- 388 – bu farw'r ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig, testun y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig
- 1750 – bu farw'r cyfansoddwr Johann Sebastian Bach
- 1844 – ganwyd Gerard Manley Hopkins, bardd yn yr iaith Saesneg
- 1865 – cyrhaeddodd y fintai gyntaf o ymfudwyr o Gymru i Wladfa Patagonia Borth Madryn, ar long y Mimosa
- 1833 – bu farw William Wilberforce, dyngarwr a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i gael gwared â chaethfasnach.
- 1890 – bu farw'r arlunydd Vincent van Gogh
- 1905 – ganwyd Dag Hammarskjöld, diplomydd Swedaidd ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
- 1921 – ganwyd yr hanesydd Aled Eames yn Llandudno
- 1933 – sefydlwyd y Bwrdd Marchnata Llaeth a sicrhaodd brisiau teg i'r ffermwyr
- 1994 – bu farw'r cyfansoddwr Cymreig William Mathias a'i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
30 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Fanwatw (1980)
- 1818 – ganwyd Emily Brontë, nofelydd
- 1863 – ganwyd Henry Ford, sylfaenydd y Cwmni Modur Ford
- 1898 – ganwyd Henry Moore, cerflunydd, yn Castleford, Gorllewin Swydd Efrog
- 1930 – enillwyd Cwpan y Byd gan Wrwgwái ym Montevideo: hon oedd y gystadleuaeth gyntaf erioed o Gwpan Pêl-droed y Byd i'w chynnal.
- 1995 – llofruddiwyd Sophie Hook, merch 7 oed, yng Ngogledd Cymru
31 Gorffennaf: Gŵyl mabsant Garmon
- 1886 – bu farw'r cyfansoddwr Franz Liszt
- 1893 – sefydlwydd Conradh na Gaeilge, cymdeithas hybu'r Wyddeleg, yn Nulyn
- 1917 – bu farw'r prifardd a'r milwr Hedd Wyn yn 30 oed ym Mrwydr Cefn Pilkem, Gwlad Belg
- 1965 – ganwyd yr awdures J. K. Rowling
- 1973 – ganwyd yr actor Daniel Evans yn y Rhondda
|