John Ystumllyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Ystumllyn
Portrait of John Ystumllyn, 11 May 1754.jpg
Portread o John Ystumllyn, dyddiedig i 11 Mai 1754, yn dangos Ystumllyn fel glaslanc
Bu farw1786 Edit this on Wikidata
Man preswylYstumllyn, Ffordd Porthmadog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgarddwr Edit this on Wikidata

Garddwr o Gymro oedd John Ystumllyn (bu farw 1786), a elwir hefyd yn Jac Du neu Jack Black. Roedd un o'r bobl ddu gyntaf yng Nghymru i gael hanes ei fywyd wedi ei gofnodi.

Nid oes sicrwydd o le'r oedd John yn hannu. Mae'n bosib ei fod wedi ei gipio ar gyfer masnach gaethweision yr Iwerydd, naill ai o Orllewin Affrica neu India'r Gorllewin. Pan oedd tua 8 mlwydd oed, fe'i gymerwyd gan deulu Wynn i'w stad Ystumllyn yn Cricieth, lle cafodd ei fedyddio, a chafodd yr enw Cymraeg John Ystumllyn.[1] Yma cafodd ei "ddofi", a dysgwyd Saesneg a Chymraeg iddo gan y bobl leol. Dysgodd arddwriaeth a chrefftwaith, ac roedd ganddo medr naturiol i'r gwaith. Gweithiodd fel garddwr yn yr ystâd ac yn y pen draw "tyfodd yn ddyn ifanc golygus ac egnïol", gyda'i bortread wedi'i baentio tua'r adeg hon. Roedd nifer o ferched lleol wedi gwirioni arno, a dechreuodd ramant gyda'r forwyn leol Margaret Gruffydd.

Wrth i Margaret symud i wahanol swyddi, dilynodd Ystumllyn hi, ac yn y pen draw rhedodd i ffwrdd o'i swydd fel garddwr i briodi ym 1768. Ganwyd saith o blant iddyn, gyda pump yn goroesi, a mae nifer o’u disgynyddion yn dal i fyw yn yr ardal erbyn yr 21G. Buont yn gweithio fel stiwardiaid tir i ddechrau, ond yn y pen draw ailymunodd Ystumllyn â chyflogaeth teulu Wynn. I gydnabod ei wasanaeth, rhoddodd Ellis Wynn ardd a bwthyn mawr, hynafol i Ystumllyn yn Y Nhyra Isa. Bu farw Ystumllyn ym 1786, gyda'i wraig yn marw ym 1828, dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd pobl yn hoff iawn o Ystumllyn yn ei amser, ac ni chyfarfu ag fawr o ragfarn hiliol, er ei fod yn aml yn dod ar draws syndod ac anwybodaeth gan bobl leol ynghylch ei ymddangosiad anghyfarwydd. Sawl blwyddyn ar ôl ei farwolaeth, adeiladwyd heneb fach yn ei fan claddu yn Eglwys Sant Cynhaearn. Dros gan mlynedd ar ôl marwolaeth Ystumllyn, cyhoeddodd yr awdur o Gymru Robert Isaac Jones gyfrif o fywyd Ystumllyn, a luniwyd o amrywiol gofnodion llafar lleol. Mae'r gwaith hwn, er ei fod hefyd wedi'i feirniadu am ei "anghofrwydd" a'i "ystrydebu hiliol", yn gwasanaethu fel y "ffynhonnell fwyaf addysgiadol" am fywyd Ystumllyn. Yn ôl Jones, roedd John Ystumllyn yn "ddyn gonest iawn, heb falais, ac yn cael ei barchu gan y bonedd a'r bobl gyffredin fel ei gilydd".

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofnodir bod sawl unigolyn Du Cymreig yn byw yng Nghymru cyn Ystumllyn, a gyflogir yn bennaf fel gweision a cherddorion i dirfeddianwyr a'r uchelwyr, yn dilyn y ffasiwn yng ngwledydd Prydain. Mae'r hanesydd Cymreig, David Morris, wedi nodi 29 o bobl dduon yng nghofrestri plwyfi De Cymru rhwng 1687 a 1814, gan gynnwys chwaraewr corn o Erddig y cafodd ei bortread ei baentio. Mae cofiannydd Ystumllyn, Andrew Green, yn dyfalu bod "mwy i'w darganfod eto" yng Ngogledd Cymru, hyd yn oed os oedd "eu niferoedd absoliwt yn fach".[2] Er gwaethaf hyn, disgrifiwyd Ystumllyn gan Green fel y person du cyntaf yng Ngogledd Cymru "y mae gennym wybodaeth fanwl amdano", yn ysgrifennu ar gyfer Geiriadur Bywgraffiad Cenedlaethol Rhydychen.[3] Mae bywyd Ystumllyn yn hysbys o dair ffynhonnell, "pob un ohonyn nhw'n hynod", yn ôl Green.[2]

Y cynharaf yw paentiad olew bach ar bren, a gynhyrchwyd gan arlunydd crefftwr anhysbys, gyda dyddiad ac enw ar ei waelod: "John Ystymllyn, 11 Mai 1754". Mae'r portread hwn yn dangos ei ymddangosiad fel dyn ifanc, yn gwisgo siaced werdd, gwasgod botwm gwyrdd a band gwddf gwyn, dillad sy'n nodweddiadol o'i safle gweithio.[2] [4]

Bedd John Ystumllyn yn Eglwys Sant Cynhaiarn

Y nesaf yw ei gofeb dywodfaen syml ym mynwent Eglwys Sant Cynhaiarn, Ynyscynhaearn, cyn eglwys blwyf sydd bellach o dan weinyddiaeth Friends of Friendless Churches. Yma, o bosib, bedyddiwyd Ystumllyn, ac yn sicr fe'i claddwyd ym 1786. Ym 1999, fe'i wnaed y gofeb yn adeilad rhestredig Gradd II "fel un o ddiddordeb arbennig mewn coffáu caethwas mewn gwasanaeth yng Nghymru ym mlynyddoedd olaf y 18G [18fed ganrif], y mae'n rhaid fod coffa da amdano i dderbyn cofeb mor olygus".[5] Mae arysgrif y gofeb yn rhoi ei oedran fel pedwar deg chwech ar adeg ei farwolaeth, ond yn nodi ei ddyddiad marwolaeth yn anghywir 1791. Mae'n dwyn englyn bywgraffyddol llwm, a gyfansoddwyd gan y cerddor a'r bardd o Benrhyndeudraeth Dafydd Siôn Siâms (1743– 1831): [2][3][4][6]  

Yn India gynna'm ganwyd a nghamrau
Yng Nghymru'm bedyddiwyd
Wele'r fan dan lechan lwyd
Du oeraidd y'm daearwyd.

Yr olaf o'r ffynonellau hyn yw pamffled byr yn Gymraeg, John Ystumllyn neu 'Jack Black' (1888), gan yr awdur o Dremadog, Robert Isaac Jones (1813–1905), a gyhoeddwyd o dan ei enw barddol, Alltud Eifion. Wrth ysgrifennu 102 o flynyddoedd ar ôl marwolaeth Ystumllyn, casglodd Jones draddodiadau llafar amrywiol John a oedd wedi pasio i lawr trwy ei deulu, yn bennaf oddi wrth ei ddad-cu a oedd wedi bod yn feddyg i Ystumllyn ar ddiwedd oes y garddwr. [2][3] Wedi hynny, addaswyd y cyhoeddiad hwn yn Y Gestiana (1892) gan Jones, a'i gyfieithu i'r Saesneg gan y canon, Tom Morris.[7] Mae Green wedi cydnabod annigonolrwydd gwaith Jones, sydd yn aml "dueddol o amrywio, gor-liwio ac anghofrwydd", ond mae'n parhau i fod, yn ei farn ef, "y ffynhonnell fwyaf addysgiadol" a "gonest" ar gyfer bywyd Ystumllyn.[2] Mae'r gwaith wedi derbyn beirniadaeth fwy llym gan bapur newydd Gogledd Cymru, The Daily Post, fel un "yn llawn stereoteipio hiliol" yn ei gofiant i Ystumllyn, gan ddweud mewn erthygl olygyddol ei fod yn enghraifft o'r rhagfarn hiliol gynnar yn erbyn cymhathu pobl ddu yng Nghymru.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Robert Isaac Jones yn cychwyn ei lith am fywyd Ystumllyn, gan gyfaddef ei darddiad ansicr, ac olrhain tri stori posib am sut cyrhaeddodd Cymru.

Robert Isaac Jones (1813–1905), cofiannydd Cymreig Ystumllyn

Daw y posiblrwydd cyntaf drwy hanesion ei fam, oedd yn honni bod aelod o deulu Wynn o Ystumllyn, o bosib Ellis Wynn, "a oedd yn berchen ar long, wedi dal y bachgen mewn coedwig yn Affrica a'i ddwyn adref i Ystumllyn", lle "gwnaethon nhw ei farnu ei fod tua wyth mlwydd oed, ac aethant ag ef i'r Eglwys yn Nghriccieth, neu Ynys [cynhaearn], i'w fedyddio, a'i alw'n John Ystumllyn".[8] Nid ydym yn gwybod gwir enw genedigol Ystumllyn.[3] Stori arall, yn deillio o ddisgynyddion Ystumllyn, yw "fod nifer o fechgyn du wedi cyrraedd Llundain, a bod chwaer Ellis Wynne o Ystumllyn, a oedd yn byw yn Llundain, wedi ei anfon fel anrheg i'w brawd".[6] Mae Green yn nodi bod chwaer Wynn, Mary, wedi priodi William Hollier, o bosib yr un Hollier a oedd yn ysgrifennydd cyntaf Cwmni Masnachwyr Affrica, a oedd yn rhan annatod o fasnach caethweision yr Arfordir Aur.[3] Roedd y trydydd cyfrif, gan John ei hun, yn honni iddo gael ei gipio gan ddynion gwyn tra "ar lan nant yng nghanol coetir yn ceisio dal rhostir" a'i gludo i'w llong, i "udo dychrynllyd" ei fam.[6] Mae Green yn fwy amheugar o'r straeon hyn, gan nodi, er nad oedd "yn annirnadwy bod Wynne wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'r fasnach gaethweision", "mae'n llawer mwy tebygol bod John wedi dod o deulu caethweision yn India'r Gorllewin", gan nodi'r cyfeiriad at darddiad Indiaidd ar ei garreg fedd.[2]

Cofnodwyd dyfodiad John i Ystumllyn drwy ddweud nad oedd ganddo "unrhyw iaith heblaw seiniau tebyg i swnian ci", yng ngeiriau Jones;[6] fwyaf tebygol roedd hwn yn iaith o orllewin Affrica, yn anghyfarwydd i bobl Cymru.[2] Mae Jones yn siarad am bobl leol yn "dofi" Ystumllyn, gan brofi "cryn anhawster am amser hir", yn ei gadw y tu fewn yn gyntaf, a - gyda chymorth menywod lleol - ei ddysgu i fod yn rhugl ac yn llythrennog yn Gymraeg a Saesneg. Yna cyflwynwyd Ystumllyn i'r ardd, lle dangosodd fedr ar gyfer crefftau a garddwriaeth, a datblygodd hoffter am flodeuwriaeth.[3][6] Yn ôl Tom Morris, "dywedwyd bod bysedd gwyrdd iawn ar y croen du iawn hwn". [9] Cafodd gyflogaeth i John ar ystâd Ystumllyn fel garddwr, am yr hyn a nododd Morris oedd yn gyflog isel iawn, gan fod ei gynhaliaeth yn "llai costus na cheffyl rasio".[9] Ar 11 Mai 1754, eisteddodd am ei baentiad olew, ac amcangyfrifodd Jones ei fod tua un ar bymtheg oed ar y pryd hwn.[3][6]

Yma, tyfodd Ystumllyn "yn ddyn ifanc golygus ac egnïol", yn ôl Jones, a "bu llawer o gystadleuaeth rhwng [merched ifanc yr ardal] er mwyn cael John yn gariad." Cafodd un forwyn ddibriod o Hendre Mur, Trawsfynydd, Margaret Gruffydd, y dasg o ddod i John "rhywfaint o fara, caws a chwrw o'r Plas". I ddechrau, roedd hi mewn ofn o John a rhedeg i ffwrdd wrth ei weld yn dod, ond dros amser tyfodd yn fwy cyfforddus o'i gwmpas, a datblygodd rhamant. Pan symudodd Margaret i blasty cyfagos ei pherthnasau, Ynysgain Bach, Cricieth, ar gyfer gwaith domestig oedd ar gael yno, parhaodd Ystumllyn â'i garwriaeth gyda hi. Mae Jones yn adrodd sioc meistr y tŷ yn Ystumllyn, yn baglu ar draws Ystumllyn yn y gegin, ac yn cymryd ei fod yn "Ddiafol Du" oherwydd ei groen tywyll. Symudodd Margaret unwaith eto i Dolgellau, lle dilynodd Ystumllyn hi. Er mwyn ei ganlyn ymhellach, rhedodd Ystumllyn i ffwrdd o'i swydd yn stad Ystumllyn, gyda Margaret yn ei ddilyn y bore wedyn. Priodwyd y ddau ar 9 Ebrill 1768, yn Nolgellau, gyda Griffith Williams, mab y ficer lleol, fel gwas priodas Ystumllyn.[2][3][9][6]

Ysgythriad o ystâd Ystumllyn gan John Ingleby, 1794

Ar ôl priodi, aeth John a Margaret i fyw yn Ynysgain Fawr, i'r gorllewin o Cricieth, lle cawsant eu cyflogi fel stiwardiaid tir.[10] Cawsant saith o blant, gyda'r ddau gyntaf yn marw pan yn ifanc, a'r pump arall yn byw i fod yn oedolion. Yn 2019, roedd sawl un o ddisgynyddion teulu Ystumllyn yn dal i fyw yn yr ardal.[3] Yn ddiweddarach, gweithiodd John yng nghartref Maesyneuadd, ger Talsarnau, ystâd arall o deulu'r Wynn. Yn agos at ddiwedd ei oes, mewn "cydnabyddiaeth am ei wasanaeth", rhoddodd Ellis Wynn dŷ "Y Nhyra Isa" neu "Nanhyran" i Ystumllyn, bwthyn gwellt bach wedi'i amgylchynu gan ardd fawr, hynafol.[2][3][6]

Bu farw Ystumllyn o achos anhysbys a chladdwyd ef yn Eglwys Sant Cynhaearn ar 2 Gorffennaf 1786.[3] Mae Jones yn ysgrifennu fod Ystumllyn, ar ei wely angau, wedi dweud wrth gymydog mai "ei brif edifeirwch oedd iddo chwarae'r crwth ar ddydd Sul yn Ystumllyn a Masyneuoedd". [6] Bu farw Margaret ym 1828, yn Y Nhyra Isa yn 81 mlwydd oed, gan oroesi John dros ddeugain mlynedd. Mae'n debyg ei bod mewn iechyd da hyd at y pwynt hwn, yn gallu "gweld gwnïo a gwau hyd at ychydig fisoedd cyn ei marwolaeth", ac roedd hi'n "hen wraig dawel a siriol". [6] Mae unig fab y cwpl, Richard Jones (bu farw 1862), yn cael sylw manwl ym mhaffffled Jones; bu fyw tan oedd yn 92 mlwydd oed, gwasanaethodd o dan Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Barwn Newborough am bum deg wyth mlynedd fel ei heliwr, a derbyniodd bensiwn gan y Barwn yn ei henaint.[2][3][6]

Cymeriad ac enw da[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Jones yn cloi ei adroddiad o Ystumllyn gyda sawl hanesyn am ei gymeriad.[2] Roedd, yn ôl pob cyfrif, yn "ddyn gonest iawn, heb falais, ac roedd y bonedd a'r bobl gyffredin fel ei gilydd yn ei barchu".[6] "Roedd yr hen werin yn ei ystyried yn ddyn moesol iawn. [...] Cafodd lliw ei groen lawer o sylw yn y dyddiau hynny, ond roedd ei safle gyda bonedd pwysicaf yr ardal yn tynnu mwy o sylw'r bobl gyffredin, na neb arall."[6]

Roedd gan y bobl leol lawer o "syniadau rhyfedd" am Ystumllyn oherwydd ei groen du, a ddogfennodd Jones yn briodol; roedd dwy forwyn wedi myfyrio yn uchel os oedd "gwaed y dyn hwnnw'n goch fel gwaed dynion gwyn", gan dderbyn ateb miniog gan Ystumllyn: "Ffwl gwirion, os ydych chi'n lladd iâr ddu a iâr wen, fe welwch y gwaed o'r ddau yn goch".[11] Mae'n debyg bod y plant lleol yn ei ofni, "oherwydd nad oedden nhw wedi gweld dyn du o'r blaen". [6] "Er bod presenoldeb dyn du yng Ngwynedd yn anochel wedi ennyn syndod a sioc hyd yn oed", yn ôl Green, "does dim awgrym bod gan unrhyw un agweddau hiliol tuag at John". [2] Mae Green yn dyfynnu un o straeon Jones sydd, mae'n honni, "yn datgelu llawer am 'ddallineb' o leiaf un person i ethnigrwydd:" [2]

The late Ellis Owen, Cefnmeusydd, use to relate an interesting story about Margaret Jones, y Nhyra, at Penmorfa Fair when Richard her son (Richard Jones, Huntsman, Glynllifon, later) was around 2 years old, and she took him on her arm on the afternoon of the Mayday Fair, as was the practice in those days, and John Ystumllyn went to the Fair in the evening. The child saw his father a distance away and shouted "Dada, Dada"; then his mother said to her friends "have you seen such a smart child as this one, recognising his father among so many people," without considering that his father was black as soot in the midst of white people; as the old adage says – "The crow sees its chick as white" (Gwyn y gwêl y fran ei chyw).[12]

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth ysgrifennu ym 1962, disgrifiodd Tom Morris y stori am Ystumllyn a Margaret yn goroesi yng Nghymru fel "rhywbeth o chwedl; mae'r cof am eu dewrder - a lwyddodd i oresgyn gwahaniaethau lliw croen a dosbarth yng Nghymru'r 18fed ganrif - yn dal i lechu".[9] Yn 2018, i gofio Mis Hanes Pobl Dduon yn y Deyrnas Unedig, cafodd John Ystumllyn ei gynnwys ar restr o 100 o bobl "Gwych, Du a Chymreig", a welwyd ar WalesOnline.[13]

Ym mis Hydref 2019, eto i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, cyflwynodd Geiriadur Bywgraffiad Cenedlaethol Rhydychen 23 bywgraffiad newydd o bobl dduon Prydain, wedi'u curadu gan yr haneswyr Miranda Kaufmann ac Anders Ingram. Roedd y detholiad hwn yn cynnwys Ystumllyn, a nododd Ingram fel "y mwyaf symbolaidd o thema'r datganiad hwn", dyn "y mae bodolaeth ei fywyd sefydlog yng nghefn gwlad Cymru yn ein hatgoffa o ddyfalbarhad profiad hanesyddol pobl dduon Prydain".[14]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cesar Picton (1755-1836), Prydeiniwr du, gyda hanes tebyg yn ymwneud â theulu tirfeddiannu Cymreig, ond wedi'i lleoli ger Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]