Lewis Hamilton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lewis Hamilton
Lewis Hamilton 2017 Malaysia.jpg
Ganwyd Lewis Carl Davidson Hamilton Edit this on Wikidata
7 Ionawr 1985 Edit this on Wikidata (33)
Stevenage Edit this on Wikidata
Man preswyl Y Swistir, Monaco Edit this on Wikidata
Alma mater The John Henry Newman School Edit this on Wikidata
Gwaith Gyrrwr fformiwla un edit this on wikidata
Gwobr/au Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Laureus World Sports Award for Breakthrough of the Year Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.lewishamilton.com Edit this on Wikidata

Gyrrwr rasio Fformiwla Un o Loegr yw Lewis Carl Davidson Hamilton (ganed 7 Ionawr 1985 yn Stevenage). Ar hyn o bryd mae'n gyrru i dîm Mercedes. Cafodd ei enwi ar ôl y rhedwr Carl Lewis.

Dechreuodd ei yrfa rasio pan oedd yn ddim ond wyth oed. Pan oedd yn ddeg fe enillodd bencampwriaeth Cartio Gwledydd Prydain. Gwnaeth hyn eto bedair gwaith yn ystod y blynyddoedd dilynol. Yn 13 fe arwyddodd gyda rhaglen gefnogi gyrrwyr ifanc tîm rasio McLaren.

Collodd allan ar y Bencampwriaeth Fformiwla Un yn 2007 o un pwynt i Kimi Räikkönen. Torrodd y record am y gyrrwr ieuengaf i ennill ras (a gafodd ei torri yn hwyrach gan Sebastian Vettel yn 2008). Gosododd record ar gyfer y nifer o "podiums" yn olynol yn y chwaraeon. Yn Nhachwedd 2008, enillodd y bencampwriaeth Fformiwla Un, gydag un pwynt o flaen Felipe Massa. Dioddefodd Hamitlon o gar andros o wael am ran fwyaf o'r tymor 2009, felly collodd ei bencampwriaeth i Jenson Button o Brawn GP. Ar ôl dri thymor aflwyddiannus arall gyda McLaren, symudodd i dîm Mercedes, a enillodd y bencampwriaeth yn y tymhorau 2014 a 2015. Yn y tymor 2016 gorffennodd yn ail yn y bencampwriaeth i'w bartner Nico Rosberg.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.