Sebastian Vettel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sebastian Vettel yn 2015

Gyrrwr rasio Fformiwla Un Almaenig yw Sebastian Vettel (ganed 3 Gorffennaf 1987).[1]

Fe'i ganwyd yn Heppenheim. Ar hyn o bryd mae'n gyrru i dîm Ferrari. Mae ei gontract presennol yn rhedeg hyd o leia diwedd 2017.[2] Mae Vettel wedi bod yn Bencampwr Byd Fformiwla Un bedwar gwaith, ar ôl ennill y bencampwriaeth rhwng 2010 a 2013 gyda thîm Red Bull Racing.[3] Mae'n cael ei ystyried fel un o'r gyrrwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes Fformiwla Un.[4][5][6][7]

Yn ei flwyddyn cyntaf yn gyrru Red Bull yn 2009, gorffennodd Vettel y tymor fel y gyrrwr ieuengaf erioed i fod yn ail orau ym Mhencampwriaeth Gyrrwyr y Byd. Y flwyddyn ganlynol, aeth ymlaen i fod y gyrrwr ieuengaf erioed i ennill Pencampwriaeth Gyrrwyr y Byd yn 23 mlwydd oed. Yn yr un flwyddyn bu'n helpu Red Bull i ennill Pencampwriaeth Adeiladwyr Byd cyntaf y tîm. Dilynodd ei bencampwriaeth cyntaf gyda thri o deitlau mwy, gan ddod yn bencampwr ieuengaf yn y byd i fod yn bencampwr dwbl, triphlyg a pedwarplyg yn Fformiwla Un.[8] Gadawodd Vettel Red Bull Racing a daeth ei gysylltiad hir-dymor i ben gyda'r cwmni ar ôl tymor 2014 a llofnododd gytundeb gyda Ferrari ar gyfer 2015, ar ôl gweithredu'r cymal i derfynu ei gontract Red Bull yn gynnar.[9]

Mae Vettel mae wedi dal niferus o recordiau "ieuengaf" eraill yn Fformiwla Un, yn eu plith: y gyrrwr ieuengaf i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer swyddogol o Grand Prix (tan Max Verstappen yn y Grand Prix 2014 Japaneaidd), i sgorio pwyntiau pencampwriaeth (tan Daniil Kvyat yn Grand Prix 2014 Awstralia), i arwain mewn ras, i sicrhau'r y safle cyntaf[10] ac i ennill ras.[11] Yn 2016 roedd'n e'n dal y record am ennill y mwyaf o bwyntiau yn ei yrfa, gan drechu Fernando Alonso yn Grand Prix Eidal 2015. mae e hefyd yn bedwerydd ymysg y rhestr o ennillwyr ras gorau erioed.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Sebastian Vettel". Formula1.com. Formula One Administration. http://www.formula1.com/teams_and_drivers/drivers/822/. Adalwyd 2 Rhagfyr 2012.
  2. "Welcome Sebastian". Scuderia Ferrari. http://formula1.ferrari.com/news/sebastian-vettel-raikkonen-2015. Adalwyd 20 Tachwedd 2014.
  3. "Vettel beyond reach in India". Federation Internationale de l'Automobile. 27 Hydref 2013. http://www.fia.com/news/vettel-beyond-reach-india. Adalwyd 29 Hydref 2013.
  4. "Vettel makes Formula One history with eighth successive victory". Irish Independent. 17 Tachwedd 2013. http://www.independent.ie/sport/vettel-makes-formula-one-history-with-eighth-successive-victory-29761655.html.
  5. http://www.theguardian.com/sport/2013/oct/27/sebastian-vettel-wins-f1-title-indian-gp
  6. http://www.bbc.co.uk/sport/0/formula1/24426625
  7. http://www.theguardian.com/sport/2013/oct/26/sebastian-vettel-f1-champion-indian-grand-prix
  8. Benson, Andrew (25 Tachwedd 2012). "Sebastian Vettel wins his third F1 world championship for Red Bull". BBC. http://www.bbc.co.uk/sport/0/formula1/20477032. Adalwyd 25 Tachwedd 2012.
  9. Noble, Jonathan (4 Hydref 2014). "Sebastian Vettel in Ferrari frame after announcing Red Bull exit". Autosport. http://www.autosport.com/news/report.php/id/116150. Adalwyd 23 Mawrth 2015.
  10. "Vettel makes history in taking pole at Italian Grand Prix". The Sports Network. 13 Medi 2008. http://www.tsn.ca/auto_racing/story/?id=249341&lid=headline&lpos=secStory_main. Adalwyd 13 Medi 2008.
  11. "Vettel makes history with Italian Grand Prix win". The Sports Network. 14 Medi 2008. http://www.tsn.ca/auto_racing/story/?id=249484&lid=headline&lpos=topStory_main. Adalwyd 14 Medi 2008.
  12. "Statistics drivers – Wins by number". Stats F1. http://www.statsf1.com/en/statistiques/pilote/victoire/nombre.aspx. Adalwyd 29 March 2015.