Robert Isaac Jones (Alltud Eifion)
Robert Isaac Jones | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Alltud Eifion ![]() |
Ganwyd | 1813 ![]() Pentrefelin ![]() |
Bu farw | 7 Mawrth 1905 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | fferyllydd, bardd, argraffydd ![]() |
Bardd, hynafiaethydd a golygydd Cymreig oedd Robert Isaac Jones (1815 – 7 Mawrth 1905), a fu'n adnabyddus wrth ei enw barddol Alltud Eifion.[1]
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganed Alltud Eifion yn 1815 ym Mhentrefelin ger Porthmadog yn ardal Eifionydd yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd). Treuliodd ei oes yn yr ardal gan ennill ei fywoliaeth fel fferyllydd ym Mhorthmadog.[1]
Llenor a hynafiaethydd[golygu | golygu cod]
Roedd yn eisteddfodwr brwd a chyfansoddodd sawl cerdd. Nid oes bri mawr ar ei gerddi erbyn heddiw, ond gwnaeth gyfraniad fel golygydd a hynafiaethydd a gofir o hyd. Gwnaeth gasglaid o hynafiaethau ei fro a gyhoeddwyd ganddo yn y gyfrol Y Gestiana (1892). Ei gyfraniad mwyaf yn y maes hwnnw fodd bynnag oedd cyhoeddi'r cylchgrawn hynafiaethol Y Brython. Yn y cylchgrawn hwnnw cyhoeddwyd nifer o gerddi canoloesol o waith y Cywyddwyr ac eraill a manion hynafiaethol o bob math; cyhoeddwyd yn ogystal nifer o chwedlau gwerin Cymraeg, dywediadau'r werin a phenillion telyn. D. Silvan Evans oedd y golygydd cyntaf cyn i Alltud Eifion ei hun gymryd yr awennau.[1]
Y Brython[golygu | golygu cod]
Cylchgrawn anenwadol misol, Cymraeg ei iaith a oedd yn cyhoeddi erthyglau ar lenyddiaeth, hynafiaeth a llên gwerin. Golygwyd y cylchgrawn gan Robert Isaac Jones rhwng Mehefin a Hydref 1858 a 1860-1863, efo'r geiriadurwr Daniel Silvan Evans (1818-1903) yn cymryd yr awenau yn ei absenoldeb.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Y Gestiana (Porthmadog, 1892)
- Y Brython (Porthmadog, 1858-1863)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).