Canon (clerigwr)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hen ddarluniad o ganon Catholig yn ei gôr-wisg (Gwlad Belg, 1812).

Clerigwr Cristnogol sy'n cyd-fyw mewn cabidwl neu glawdstrdy yng nghyffiniau eglwys gadeiriol neu golegol, neu sydd fel arall yn ymwneud â chadeirlan, yw canon,[1] canonwr,[2] neu yn hynafaidd sianon.[3]

Yn oesoedd cynnar yr eglwys Gristnogol, offeiriaid oedd yn cyd-fyw oedd canoniaid. Daw'r gair yn y bôn o canonicus, Lladin am "reol" neu "gyfraith", sy'n awgrymu i'r clerigwr drefnu ei fywyd yn unol â rheolau neu ganonau penodol ei urdd neu gymdeithas. Yn ddiweddarach defnyddid yr enw i ddisgrifio clerigwyr oedd yn rhan o eglwys gadeiriol, ac yn cyfrannu at fywyd a gweinydiaeth y gadeirlan. Defnyddid yr enw canones yn yr Oesoedd Canol i ddisgrifio aelod o urdd Gristnogol fenywaidd. Yn wahanol i leianod, nid oedd canonesau yn cymryd arnynt ddiofryd tlodi.

Defnyddir y gair canon yn deitl eglwysig yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig ac yn y Cymundeb Anglicanaidd, er bod peth gwahaniaeth rhwng y swyddi yn y ddwy eglwys honno. Yn yr Eglwys Gatholig, gwahaniaethir rhwng canoniaid seciwlar, sef offeiriaid sydd yn rhan o eglwys ond heb gymryd arnynt ddiofrydau arbennig, a chanoniaid rheolaidd, sydd yn byw yn ôl rheolau penodol ac yn dilyn trefn led-fynachaidd ym mywyd pob dydd, megis Brodyr Sant Awstin.

Anglicaniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dau fath o ganon sydd mewn eglwysi Anglicanaidd: canon preswyl a chanon mygedol. Mae gan y canon preswyl swyddogaeth arbennig ym mywyd y gadeirlan, megis trysorydd neu flaenor y gân. Dewisir y canoniaid preswyl o blith clerigwyr yr esgobaeth. Dan arweiniad y deon, maent yn ffurfio'r siapter sy'n rheoli'r eglwys gadeiriol.[4][5] Teitl anrhydeddus ydy'r ganoniaeth fygedol, a roddir gan esgob i glerigwr, neu weithiau i leygwr. Fel arfer nid oes dyletswyddau swyddogol gan y canon mygedol, ac eithrio mynychu cyfarfod yn yr eglwys gadeiriol unwaith y flwyddyn. Mae canoniaid Anglicanaidd fel rheol yn gwisgo urddwisg arbennig: casog ddu ag ymylwaith satin coch; botymau cochion; gwregys coch; a mantell fer ag ymylwaith coch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  canon. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.
  2.  canonwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar {{{dyddiadcyrchiad}}}.
  3.  sianon. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.
  4. "Esbonio termau", Yr Eglwys yng Nghymru. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.
  5. (Saesneg) "The Church of England Companion", Eglwys Loegr. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.